Arweinwyr Cyfoed yn derbyn diolchiadau’r Brifysgol
Bu bron i bum cant o fyfyrwyr (486) yn gwirfoddoli i gefnogi myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor eleni- sef y nifer fwyaf erioed.
Diolchwyd i’r ‘Arweinwyr Cyfoed’, fel y’u gelwir, a chyflwynwyd tystysgrifau iddynt mewn seremoni yn y Brifysgol yn ddiweddar, pryd y cydnabuwyd eu sgiliau a’u cyfraniad i’r Brifysgol.
Mae gan Fangor un o’r cynlluniau mwyaf o’i fath yn y DU, ac mae’n cael ei ddefnyddio fel enghraifft o ymarfer gorau i brifysgolion eraill. Yn gynharach eleni gosodwyd y Cynllun ar restr fer Gwobr Genedlaethol y Times Higher Education am Gefnogaeth Neilltuol i Fyfyrwyr.
Y sylw mwyaf cyffredin gan y myfyrwyr sy’n gwirfoddoli fel Arweinwyr Cyfoed yw eu bod yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i’r Brifysgol; mae arnynt eisiau cyfrannu’n ymarferol at gymuned y Brifysgol.
Meddai Judith Morris, myfyrwraig Seicoleg 22 oed o Gilgwri: “Dewisais fod yn Arweinydd Cyfoed gan fod fy Arweinydd Cyfoed i wedi gosod esiampl mor dda. Roeddwn eisiau pasio mlaen ffrwyth yr holl wybodaeth dderbyniais ganddo!”
Dywedodd Bethan Mair Lenny o Aberystwyth, sy’n astudio am radd MA mewn Cymraeg, ei bod hithau wedi dysgu cymaint gan ei Harweinydd Cyfoed hithau pan ddaeth i Fangor gyntaf, o ran gwybod lle mae llefydd a gwneud cysylltiadau efo ffrindiau. Wrth wirfoddoli bu hi’n helpu pobl i symud i mewn a gwneud yn siŵr eu bod yn hapus ac yn dod i adnabod ei gilydd, yn ogystal â sicrhau bod ganddynt y wybodaeth hanfodol. Roedd y gwirfoddoli hefyd yn fodd iddi ymarfer sgiliau arwain a threfnu.
Dysgodd Richard Patton o Ddonegal lawer am sut y mae pobl yn ymateb yn wahanol mewn gwahanol sefyllfaoedd drwy ei waith fel Arweinydd Cyfoed. Meddai: “Roedd symud o gartref yn anodd i mi. Dysgais sut mae eraill yn ymdopi â hyn ac roedd hynny’n help mawr i mi.”
Meddai’r Athro Colin Baker, Dirprwy Is-Ganghellor sydd â chyfrifoldeb dros Ddysgu ac Addysgu:
“Mae gan Fangor draddodiad hir o fod yn Brifysgol sy’n gofalu, ac mae wedi derbyn clod am ei system tiwtora personol mewn sawl arolwg ac archwiliad sefydliadol. Rydym yn gwerthfawrogi yr ymrwymiad a’r cyfraniad i fywyd y Brifysgol sy’n cael ei wneud gan ein Harweinwyr Cyfoed gwych. Rydym mor falch bod cynifer o fyfyrwyr yn awyddus i gyfrannu at gefnogi eu cyd-fyfyrwyr. Drwy wneud hyn mae hwythau’n datblygu eu sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm ac arwain, sydd i gyd yn gwella eu cymwysterau yn y farchnad gwaith.”
Dyma oedd gan Kim Davies, Cydlynydd Arweinwyr Cyfoed yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, i’w ddweud:
“Mae’r Arweinwyr Cyfoed yn cael eu hyfforddi ar gyfer eu gweithgareddau. Maent yn trefnu ac yn cynnal gweithgareddau yn ystod Wythnos y Glas, ac ar gael i fyfyrwyr wrth iddynt ymdopi â bywyd myfyrwyr. Maent yn cynnig cyngor a gwybodaeth ac yn gwybod pa bryd ac at bwy yn y Brifysgol y dylid cyfeirio myfyrwyr am arweiniad pellach. Maent yn cynnig y ddarpariaeth yma cyhyd ag mae ar fyfyrwyr ei hangen, a gall hyn wneud gwahaniaeth rhwng myfyriwr yn penderfynu aros neu adael yn ystod yr wythnosau cyntaf anodd oddi cartref.”
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mai 2011