Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor
Mae Ross Davies o Ben-y-bont ar Ogwr, De Cymru, wedi’i ethol yn Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor.
Roedd Ross yn un o 486 o fyfyrwyr a gafodd eu hyfforddi eleni fel Arweinwyr Cyfoed - y nifer fwyaf erioed - ac a fu’n gwirfoddoli i gefnogi ac arwain myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor.
Gofynnir i bob myfyriwr yn y flwyddyn gyntaf pwy hoffai ei enwebu ar gyfer Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn. Disgrifiodd y myfyrwyr a enwebodd Ross sut yr aeth allan o’i ffordd i ddod i adnabod y myfyrwyr yr oedd yn gyfrifol amdanynt cyn iddynt gyrraedd y Brifysgol hyd yn oed. Roedd hyn yn gwneud y dyddiau cyntaf yn llawer llai pryderus iddynt. Er hynny, nid yw’r Arweinwyr Cyfoed yno am yr wythnosau cyntaf yn unig, maen nhw yno cyhyd ag y mae’r myfyrwyr angen eu cyngor a’u cymorth. Mae nifer yn gwneud ffrindiau drwy fod yn Arweinwyr Cyfoed.
Cafodd Ross darian yn wobr a thocyn £50 i’w wario yn siopau’r Stryd Fawr.
Mae gan Fangor un o’r cynlluniau mwyaf o’i fath yn y DU, ac mae’n cael ei ddefnyddio fel esiampl o ymarfer gorau i brifysgolion eraill. Yn gynharach eleni gosodwyd y Cynllun ar restr fer Gwobr Genedlaethol y Times Higher Education am Gefnogaeth Neilltuol i Fyfyrwyr.
Mae’r Arweinwyr Cyfoed eu hunain yn ennill sgiliau a phrofiadau sydd yn help iddynt unwaith maent yn chwilio am waith. Mae rhaid iddynt fod yn drefnus er mwyn cynllunio’u cyfrifoldebau Arweinwyr Cyfoed a’u hastudiaethau eu hunain. Rhaid iddynt fod yn gyfathrebwyr da, a gallu gweithio mewn timau a dangos sgiliau arwain: mae’r rhain i gyd yn sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Meddai Ross: “Mae Prifysgol Bangor yn Brifysgol wych ac roeddwn eisio cyfrannu’n ymarferol. Roeddwn yn gwybod cymaint o her oedd dod i’r Brifysgol i mi. Roedd gen i Arweinydd Cyfoed a phenderfynais yr hoffwn i wneud yr un fath. Rwy’n gwybod sut i siarad â phobol a gallwn wneud i fyfyrwyr newydd deimlo’n gartrefol.”
“Dywedais wrth y myfyrwyr newydd y baswn yn dod i chwilio amdanyn nhw yn hytrach na gadael iddyn nhw ddod i nghyfarfod i. Cyflwynais nhw i bobol a’u harwain ar deithiau byrion ac i ddigwyddiadau cymdeithasol. Mae’n gwneud y broses o ddod i nabod pobol yn haws wrth gael hwyl ar yr un pryd.
Y peth i bwysleisio yw bod pawb yn yr un cwch â chi, does dim i’w ofni, dim ond nerfau ydi o!”
Mae Ross wedi annog y myfyrwyr o dan ei ofal i fanteisio ar bob cyfle a gânt tra byddant yn y Brifysgol.
Meddai: “Mae gwirfoddoli fel Arweinydd Cyfoed wedi rhoi lot o hyder i mi- yn ogystal ag esgus i ddod i nabod nifer o bobol newydd. Rydw i wedi mwynhau’n fawr iawn a byddwn yn argymell y profiad i unrhyw un.
“Rwy’n falch mod i wedi ennill ac mae cael adborth fel hyn yn wych.”
Daeth Ross i Fangor gan fod gan y Brifysgol enw da yn addysgol, ac roedd wrth ei fodd efo Bangor pan ddaeth ar gyfer cyfweliad.
Dyma oedd gan Kim Davies, Cydlynydd Arweinwyr Cyfoed yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, i’w ddweud:
“Rydym yn ystyried ein hunain yn brifysgol sy’n gofalu am bobl. Rydym yn gwerthfawrogi'r ymrwymiad a’r cyfraniad i fywyd y Brifysgol sy’n cael ei wneud gan ein Harweinwyr Cyfoed gwych. Rydym mor falch bod cynifer o fyfyrwyr yn awyddus i gyfrannu at gefnogi eu cyd-fyfyrwyr”, meddai.
“Nid yn unig mae'r Arweinwyr yn trefnu ac yn cynnal gweithgareddau yn ystod Wythnos y Glas, maent wrth law i roi cymorth cyhyd ac mae ar fyfyrwyr ei hangen, a gall hyn wneud gwahaniaeth rhwng myfyriwr yn penderfynu aros neu adael yn ystod yr wythnosau cyntaf anodd oddi cartref,” ychwanegodd.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mai 2011