Astudiaeth £1.85m i ymchwilio i ficrobau'n "ffawdheglu" ar blastig yn y môr
Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio gyda Phrifysgolion Stirling a Warwick ar broject newydd gwerth £1.85 miliwn sy'n ymchwilio i'r ffordd y mae plastig yn y môr yn cludo bacteria a firysau - a'r effaith bosibl ar iechyd pobl.
Mae'r gwyddonwyr yn ceisio deall sut mae plastig yn gweithredu fel cerbyd, a allai ledaenu pathogenau ar hyd yr arfordir, neu hyd yn oed o wlad i wlad, a sut mae hynny'n effeithio ar iechyd.
Y biolegydd amgylcheddol Dr Richard Quilliam ym Mhrifysgol Stirling yw prif ymchwilydd yr astudiaeth newydd, a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).
"Er bod effeithiau plastig yn y môr ar fywyd gwyllt eisoes yn hysbys, does dim llawer o ymchwil wedi ei wneud i ddeall y peryglon posib sydd i iechyd gan bathogenau sy'n rhwymo'n sownd wrtho," esboniodd Dr Quilliam. "Bydd ein hastudiaeth yn ystyried sut mae pathogenau'n rhwymo wrth blastig yn y môr a sut mae'r broses hon yn helpu bacteria a firysau ymledu ar draws y byd - i lefydd na fyddent byth wedi eu cyrraedd drostyn nhw eu hunain pe baent yn nofio'n rhydd yn y dŵr.
"Gallai fod effeithiau posibl i bobl drwy'r gadwyn fwyd - er enghraifft, mae swplancton y cefnfor yn bwyta plastig, ac mae'r pysgod yn eu bwyta hwythau ac yn y pen draw, mae pobl yn eu bwyta - neu mae pobl yn llyncu'r dŵr, yn nofio yn y môr neu'n gorwedd ar y tywod wrth ymyl plastig y môr."
Bydd y gwaith ym Mangor yn manteisio ar y Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol (CEB) a agorwyd yn ddiweddar, ac yno bydd tîm Bangor yn dadansoddi ymddygiad microblastigau - darnau bach o blastig na ellir prin eu gweld nhw sy'n mynd i'r amgylchedd ac yn ei lygru trwy weithfeydd trin dŵr gwastraff - ac y mae microbau wedi ymgartrefu ynddynt , trwy'r afonydd a'r aberoedd ac allan i'r môr.
Yr Athro Peter Golyshin yw arweinydd tîm Bangor, sy'n cynnwys yr Athrawon Davey Jones a Bela Paizs, ill dau o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol, Dr Peter Robins a'r Athro David Thomas, o Ysgol Gwyddorau'r Eigion.
Dywedodd: "Byddwn yn bwrw amcan ynglŷn â swm a chyfansoddiad y microblastigau sy'n mynd i mewn i afonydd a systemau arfordirol y Deyrnas Unedig. Yna byddwn yn modelu i weld pa mor hir y maen nhw'n ei gymryd i gyrraedd parthau arfordirol lle mae bioamrywiaeth uchel a physgodfeydd cregyn, gan ddibynnu ar wahanol senarios o ran y tywydd. Byddwn hefyd yn bwrw amcan ynglŷn â'r potensial sydd i ficro-organebau naturiol goloneiddio a diraddio gronynnau microblastig."
"Bydd y project hefyd yn ymchwilio i ganfod a yw algâu gwenwynig yn goroesi am yn hirach os oes ganddo rywbeth i gydio ynddo a chynefin i fyw ynddo. Credwn y gall plastig yn y môr helpu pathogenau oroesi a pharhau yn yr amgylchedd," ychwanegodd yr Athro Golyshin.
Dywedodd Dr Quilliam: "Dyma faes ymchwil newydd ac mae ein gwaith ni'n debygol o esgor ar ganllawiau amgylcheddol, strategaethau a chynlluniau rheoli newydd a gaiff eu cynllunio i'w gwneud hi'n llai tebygol y bydd pathogenau'n rhwymo wrth blastig yn y môr."
Ariennir yr astudiaeth - sy'n dwyn y teitl Microbau'n ffawdheglu ar blastig yn y môr: goroesiad, dyfalbarhad ac ecoleg cymunedau microbau yn y 'Plastigfyd' trwy fenter Highlight Topics NERC.
Mae cydweithwyr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion hefyd yn arwain ar un o'r 14 Highlight Topics NERC a gafwyd. Mae Dr Thomas Davies yn ymchwilio i effeithiau llygredd golau artiffisial ar gynefinoedd yr arfordir.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018