Astudiaeth Effaith Gymunedol
Mae Shan Ashton o'r Ysgol Dysgu Gydol Oes yn cyflawni astudiaeth effaith gymunedol o gynhyrchiad Chwalfa ar ran Theatr Genedlaethol Cymru. Yn nhermau theatr, roedd y cynhyrchiad yn hynod lwyddiannus gyda llond lle a chymeradwyaeth llawn bob nos. Roedd yna lwyddiant cyffelyb o ran niferoedd cynulleidfa i gynhyrchiad cyfrwng Cymraeg. Y dasg rŵan yw cloriannu'r effaith gymunedol tu hwnt i'r llwyddiant gorlawn cychwynnol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2016