Astudiaeth fyd-eang gyntaf: Gall morwellt ar wely’r môr storio dwywaith gymaint o garbon â choedwigoedd
Mae ardaloedd o wely’r môr sydd dan fygythiad byd-eang yn llefydd arbennig i storio carbon yn ôl papur a gyhoeddir yn y cyfnodolyn Nature Geoscience yr wythnos hon (20.5.11:doi:10.1038/ngeo1477).Yr astudiaeth “Seagrass Ecosystems as a Globally Significant Carbon Stock” yw’r dadansoddiad byd-eang cyntaf o garbon wedi ei storio mewn caeau o forwellt.
Eglura Dr Kennedy o Ysgol Gwyddorau Eigion a chyd-awdur y papur: “Mae ein hastudiaeth yn dangos bod priddoedd morwellt, fesul ardal yr uned, yn gallu storio dwywaith gymaint o garbon â phriddoedd yn y coedwigoedd tymherus a throfannol. A hyd yn oed yn fwy anhygoel, er bod caeau morwellt mewn llai na 0.2% o gefnforoedd y byd, maent yn storio 90% o’u carbon yn y pridd flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan eu gwneud yn gyfrifol am dros 10% o’r carbon sydd wedi ei gladdu bob blwyddyn yn y cefnforoedd. Mae morwellt, sy’n tyfu yn ein moroedd arfordirol yn unigryw yn hyn o beth, gan eu bod yn gallu storio carbon yn eu gwreiddiau a’r pridd. Gwelodd ein hastudiaeth mai Môr y Canoldir yw’r rhanbarth daearyddol gyda'r crynodiad mwyaf o garbon, a bydd y caeau morwellt yn storio carbon am filoedd o flynyddoedd."
Mae pwysigrwydd pellach i’r ymchwil hwn gan fod caeau morwellt ymhlith yr ecosystemau sydd dan fwyaf o fygythiad drwy’r byd. Mae oddeutu 29% o’r holl gaeau morwellt hanesyddol wedi cael eu dinistrio, yn bennaf oherwydd treillio a diraddio ansawdd y môr. Hefyd mae o leiaf 1.5% o gaeau morwellt yn cael eu colli bob blwyddyn. Mae’r astudiaeth hon yn amcangyfrif y gall dinistrio caeau morwellt ollwng cymaint â 10% o’r carbon sy’n cael ei ryddhau ar hyn o bryd trwy newidiadau mewn defnydd tir yn yr amgylchedd daearol. Mae’r dinistrio hyn hefyd yn arwain at golli buddion eraill gan fod y caeau yn darparu cynefinoedd a meithrinfeydd i bysgod a physgod cregyn, sefydlogi gwaddodion, lleihau erydiad a diogelu arfordiroedd rhag llifogydd a stormydd.
Meddai Dr Kennedy: “Gellir gwyrdroi’r colledion hyn trwy adferiad ond bydd yn cymryd amser. I ddechrau, rhaid trin yr hyn sy’n dinistrio’r morwellt – dirywiad yn ansawdd y dŵr a llai o olau yn cyrraedd y morwellt – fel bod y cynefin yn cefnogi twf y morwellt unwaith eto. Unwaith bod cae wedi ei adfer mae crynodiad y carbon yn y priddoedd yn dechrau cynyddu eto a dangoswyd ei fod yn gallu dyblu mewn oddeutu 10 mlynedd.”
Yn gyffredinol, mae’r canlyniadau'n dangos bod y caeau morwellt yn safleoedd allweddol i storio carbon. Gall cadw ac adfer caeau morwellt leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynyddu storfeydd carbon, fel a gynigir yn y mentrau “Carbon Glas”, a darparu gwasanaethau ecosystem pwysig i gymunedau arfordirol.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2012