Astudiaeth i ddiogelu adnoddau genetig tilapia gwyllt ar gyfer dyfodol ffermio pysgod
Gyda stociau pysgod y byd yn prinhau, mae ffermio tilapia yn llwyddiant byd-eang, gyda chynhyrchu wedi treblu yn ystod y mileniwm hwn.
Mae hwn yn awr yn ddiwydiant gwerth $7.6bn, gan gynhyrchu 4.5 miliwn tunnell o bysgod fforddiadwy o ansawdd uchel bob blwyddyn. Yn ogystal, mae'n gynaliadwy, oherwydd yn wahanol i'r eogiaid a'r draenogiaid y môr rydym yn eu magu yn Ewrop, nid oes angen bwydo tilapia gyda llawer o bysgod eraill wedi'u dal o'r cefnforoedd, ond maent at ei gilydd yn bwyta deunydd llysieuol a gwastraff o ffermydd. Er eu bod yn cael eu meithrin yn awr drwy'r byd, o Affrica y daw tilapia yn wreiddiol.
Dim ond ychydig o rywogaethau a bridiau sy'n cael eu magu, ond mae cannoedd o boblogaethau gwyllt unigryw, yn arbennig yn Tanzania a Kenya, yn debygol o gynnwys amrywiaeth genetig hynod werthfawr, gyda nodweddion manteisiol fel tyfu'n gyflym, gallu i wrthsefyll amgylcheddau eithafol, natur heddychlon a gallu gwrthsefyll afiechydon. Gwaetha'r modd, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae stociau tilapia safonol sydd wedi'u ffermio wedi cael eu rhyddhau i'r gwyllt ar hyd a lled Affrica, lle maent yn cystadlu â bridiau brodorol, croesi â hwy, neu ddod ag afiechydon egsotig i'w canlyn.
Bydd yr Athro George Turner o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor yn arwain tîm o ymchwilwyr a fydd yn ceisio dod o hyd i'r stociau gwyllt a phur sydd ar ôl yn Tanzania ac argymell sut y gellir eu diogelu, yn cynnwys drwy rewi sberm a chelloedd eraill os bydd angen.
Bydd y tîm hefyd yn gwneud gwaith dilyniannu genomau llawn ar raddfa fawr i weld beth yw ffawd genynnau brodorol ac egsotig mewn mannau lle maent wedi bod yn croesi â bridiau eraill. Cyllidir y gwaith drwy grant o £250k gan y Biotechnology & Biological Sciences Research Council a'r Natural Environment Research Council, a bydd yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Bryste, the Genome Analysis Centre (TGAC) yn Norwich, y World Fish Centre ym Malaysia a'r Tanzanian Fisheries Research Institute.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2015