Astudiaeth Maes Iwerddon 2016
Roedd wythnos gwaith maes criw M.A. Datblygu Cymunedol i Iwerddon yn llwyddiant ysgubol gyda siaradwyr ardderchog ac ymrwymiad gwych gan fyfyrwyr ac aelodau'r cymunedau.
Ar ôl cyfnod o thua 5 mlynedd ers ein hymweliad diwethaf i Iwerddon, diddorol oedd gweld effaith y chwalfa economaidd a'r llymder dilynol ar bob math o gymuned a sefydliad perthnasol. Er y twf economaidd diweddar yn yr Iwerddon, mae'r dosbarthiad yn anghyfartal dros ben gyda'r bylchau rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol yn ehangu'n fwyfwy; roedd y cymunedau'n fythol obeithiol ac yn weithgar dros ben ond yn brwydro'n galed yn erbyn y gwasgedd.
Cawsom gyflwyniad a chasgliad gan staff TASC a Phrifysgol Maynooth ar gyfer ein harchwiliad i'r berthynas rhwng datblygu cymunedol a rhanbarthol yng Nghymru ac Iwerddon. Diolchwn i gymunedau'r Gaeltachta a Gaillimhe, cymunedau Offaly ac i'r oll fudiadau a sefydliadau gwnaeth cynnig croeso a chefnogaeth.
Bydd yr astudiaeth nesaf yn cael ei gynnal yng nghymoedd de Cymru gyda myfyrwyr y dystysgrif olradd mewn Datblygu Cymunedol.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2016