Astudiaeth yn dangos fod effaith economaidd prifysgolion Cymru yn tanio’r economi ym mhob rhan o’r wlad
Mae’r astudiaeth ddiweddaraf gan arbenigwyr addysg yn dangos fod prifysgolion yng Nghymru yn chwarae rhan allweddol yn tanio economi Cymru.
Cynhyrchodd prifysgolion Cymru, ynghyd â gwariant oddi ar y campws gan fyfyrwyr ac ymwelwyr, gyfanswm o £4.6 biliwn o allbwn yng Nghymru, a gwelir fod y sector addysg uwch yn un o ddiwydiannau mwyaf gwerthfawr Cymru, a’i fod yn creu degau o filoedd o swyddi ac yn symbylu gweithgarwch economaidd mewn cymunedau lleol, yn ogystal ag economi Cymru yn gyffredinol.
Mae’r adroddiad gan Viewforth Consulting yn dilyn astudiaeth debyg a gyhoeddwyd yn 2013, ond y tro yma mae’n canolbwyntio ar ddata o 2014 ac yn defnyddio methodoleg newydd a mwy penodol. Daw’r adroddiad i’r casgliad fod addysg uwch yn actor a diwydiant economaidd o bwys ynddo’i hun a’i fod yn cynhyrchu tua £2.4bn o GVA Cymru (cyfwerth â 4.6% o gyfanswm Cymru) ac yn creu bron i 50,000 o swyddi yng Nghymru (3.4% o gyfanswm Cymru).
Hefyd, am y tro cyntaf mae’r gwaith hwn yn cynnwys dadansoddiad estynedig o effaith economaidd Prifysgolion Cymru ar draws holl ranbarthau Cymru. Canfu’r gwaith fod pob rhan o Gymru yn elwa o ‘sgîl effeithiau’ gweithgarwch prifysgolion Cymru, boed ganddynt bresenoldeb prifysgol yn eu hardal ai peidio. Trwy greu model penodol i Gymru llwyddodd Viewforth Consulting i ddangos sut mae effaith economaidd yn lledu i ardaloedd nad oes ganddynt brifysgol trwy “grych-effeithiau”, ac roedd chwarter y GVA (£597m) a’r swyddi (11,783) a grëwyd gan brifysgolion Cymru mewn rhannau o Gymru nad oes ganddynt brifysgol ar eu trothwy.
Mae rhai o brif gasgliadau eraill yr adroddiad hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd cynyddol prifysgolion Cymru ar y llwyfan byd-eang. Erbyn hyn mae’r diwydiant addysg uwch yn gyfrifol am 4.6% o holl allforion Cymru, sef £600m, ac mae campysau mwyfwy amrywiol ac amlddiwylliannol yn denu mwy o ymwelwyr tramor i Gymru, sydd yn ei dro yn codi proffil y genedl dramor.
Dywedodd cydawdur yr ymchwil, Dr Ursula Kelly o Viewforth Consulting: “Ers cyhoeddi ein hadroddiad cyntaf, gwelwn fod pwysigrwydd addysg uwch i economi Cymru wedi tyfu fwy fyth. Mae’r astudiaeth hon yn tanlinellu’r ffaith fod prifysgolion Cymru nid yn unig o gryn bwys i Gymru yn cefnogi datblygiad economaidd trwy addysg ac ymchwil, ond eu bod hefyd yn gyfranwyr economaidd pwysig eu hunain trwy gynhyrchu allbwn, swyddi a GVA.”
Dywedodd Cadeirydd Prifysgolion Cymru ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: “Mae’n bwysig deall fod prifysgolion yn asedau - golyga hynny nid yn unig adnoddau i ddarparu rhaglenni astudio, ond eu bod hefyd yn gyfrifol am fuddsoddi sylweddol, ac rwyf yn falch fod casgliadau adroddiad heddiw yn dangos fod cyfraniad prifysgolion Cymru i sefyllfa economaidd ein cenedl wedi parhau i dyfu. Mae’n briodol ein bod yn dathlu effaith economaidd, gymdeithasol a diwylliannol ein prifysgolion, a gobeithiwn fod yr adroddiad yn tanlinellu beth all prifysgolion ei gyfrannu, nid yn unig i economi Cymru, ond i wneuthuriad ein cenedl.
‘Mae’n bwysicach nac erioed ein bod, gyda Llywodraeth Cymru, yn gweithio ar ddod o hyd i atebion i’r heriau tymor byr sy’n wynebu’r sector fydd yn galluogi ein prifysgolion i gynnal ac adeiladu ar y cyfraniad economaidd a amlygir yn yr adroddiad.’
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2015