Athletwyr Prifysgol Bangor ar frig y gynghrair traws gwlad
Llongyfarchiadau i Dîm Athletau Prifysgol Bangor a enillodd deitl Is-adran 1 am y tro cyntaf yn Grand Prix Traws Gwlad Cynghrair Gogledd Cymru yng Nghroesoswallt yn ddiweddar. Daeth y fuddugoliaeth 12 mis ar ôl cael eu dyrchafu i'r Adran Gyntaf.
Ffurfiwyd Cynghrair Traws Gwlad Gogledd Cymru yn ôl yn 1959 ac aelodau presennol Tîm Athletau Prifysgol Bangor yw'r tîm cyntaf o Fangor i ennill.
Tîm Bangor oedd y gorau ymhlith yr wyth tîm yn yr adran gyntaf ac maent hefyd wedi cael gwell sgôr nag unrhyw un o’r 12 dîm yn adran 2 sy'n rhedeg yn yr un rasys.
Esboniodd Matthew Mason, capten y clwb ac aelod o'r tîm: "Cynhaliwyd pum cystadleuaeth gan y gynghrair rhwng Hydref a Chwefror. Roedd gennym 24 aelod o'r tîm yn ein cynrychioli mewn o leiaf un ras drwy gydol y tymor.
"Y tymor hwn roedd pob dim yn dibynnu ar y ras olaf gyda ni ac Eryri Harriers yn cystadlu am y teitl. Mae'r Eryri Harriers wedi ennill y gynghrair bedair gwaith yn y pum mlynedd diwethaf, ond llwyddom i’w curo o 43 pwynt. Nid oes unrhyw dîm prifysgol wedi ennill y teitl ers i Aberystwyth wneud hynny yn 1972, felly rydym yn falch iawn ein bod wedi dod â’r fuddugoliaeth i Fangor."
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2015