Athro Cymraeg yn ymweld ag Ohio i ddathlu pedwar canmlwyddiant cyhoeddi Beibl Saesneg y Brenin Iago
Gwahoddwyd yr Athro Peredur Lynch o Ysgol y Gymraeg i gymryd rhan mewn cyfres bwysig o ddarlithoedd ym Mhrifysgol Daleithiol Ohio er mwyn dathlu pedwar canmlwyddiant cyhoeddi Beibl Saesneg y Brenin Iago ym 1611.
Bydd yn traddodi ei ddarlith ar 20 Mai yn y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau’r Oesoedd Canol a’r Dadeni, a hynny fel rhan o raglen o weithgareddau sy’n canolbwyntio, nid yn unig ar Feibl y Brenin Iago, ond hefyd ar ddylanwad y Beibl yn gyffredinol ar feddwl yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar.
Teitl darlith yr Athro Lynch fydd ‘Hunaniaeth Genedlaethol Gymreig a’r Beibl yn ystod yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar’.
Yn ôl yr Athro Lynch, bydd ei ddarlith “yn canolbwyntio ar y syniad o genedl etholedig yn y Beibl ac ar y modd y dylanwadodd y cysyniad hwnnw ar syniadau ynghylch hunaniaeth genedlaethol.”
“Yn sgil eu tröedigaeth at Gristnogaeth, aeth Beda ati i daflunio’r Eingl-Sacsoniaid fel yr Israel newydd. Y cwestiwn y bydda i yn ei wyntyllu yw i ba raddau y dylanwadodd y model rhagluniaethol a Beiblaidd hwn o genedl ar Gymru.”
Bydd ymweliad yr Athro Lynch â Phrifysgol Ohio yn cyd-daro â chyfarfod blynyddol Cymdeithas Astudiaethau Celtaidd Gogledd America, sy’n cael ei gynnal eleni yn y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau’r Oesoedd Canol a’r Dadeni. Hon yw’r gymdeithas academaidd amlycaf yng ngogledd America ym maes Astudiaethau Celtaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012