Athro Gwadd mewn Iechyd Plant a Nyrsio Plant
Mae'r Athro Jane Noyes, Athro Iechyd Nyrsio ac Ymchwil i Wasanaethau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor, wedi'i phenodi’n Athro Gwadd yn Ysgol Systemau Nyrsio, Bydwreigiaeth ac Iechyd, Coleg y Brifysgol Dulyn, Iwerddon.
Mae’r Athro Noyes yn ymchwilydd gwasanaethau iechyd sy'n arbenigo mewn ymchwil i iechyd plant a gwasanaethau cymdeithasol a chanlyniadau hynny o ran cost. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn methodoleg adolygu systematig ansoddol a dulliau cymysg. Yn ogystal, hi yw Prif Gynullydd Grŵp Dulliau Ymchwil Ansoddol Cochrane y DU a golygydd y Journal of Advanced Nursing.
Sefydlwyd y Gadair Wadd er mwyn meithrin a datblygu diddordebau ar y cyd mewn ymchwil Iechyd Plant rhwng Prifysgol Bangor a Choleg Prifysgol Dulyn.
"Daw’r penodiad ar adeg gyffrous iawn gyda chynllunio ysbyty newydd i blant yn Nulyn ac awydd i feithrin gallu a medr mewn ymchwil iechyd plant. Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu projectau ymchwil ar y cyd i gryfhau a helaethu’r dystiolaeth yn ymwneud ag iechyd plant a nyrsio plant, ac i groesawu cydweithwyr o Goleg Prifysgol Dulyn i Fangor, " meddai'r Athro Noyes.
Mae'r Cydweithio â Choleg Prifysgol Dulyn efo Maria Brenner, Pennaeth Nyrsio Plant ac Athro Philip Larkin, Athro CysylltiolNyrsio Clinigol (Gofal Lliniarol) eisoes wedi galluogi’r Athro Noyes i gyflwyno gweithdy yn Nulyn y llynedd, gyda’i chydweithiwr Sally Rees. Bu hefyd yn ymweld ag Ysbyty Plant Ein Harglwyddes a chwrdd â staff allweddol, ac ymddiriedolwyr Sefydliad Ymchwil Meddygol yr ysbyty.
Mae Jane Noyes yn arwain y gwaith ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Bangor, gwaith a gyflawnir yng Nghanolfan Ymchwil Gysylltiedig ag Iechyd yr Ysgol. Mae'r Ysgol yn cyfrannu at raglen ymchwil fawr ym Mangor sy'n gysylltiedig ag iechyd, gyda’r ymchwil yn cael ei chyflawni mewn nifer o golegau gan roi cyfle i fyfyrwyr astudio dan academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2012