Athro o Brifysgol Bangor yn darganfod sgript ffilm ‘golledig’ Kubrick
Mae'r Athro Nathan Abrams o Brifysgol Bangor, sy’n arbenigwr ar Stanley Kubrick, wedi ailddarganfod sgript ffilm a luniwyd gan y cyfarwyddwr yn 1956 ac y credid oedd wedi mynd ar goll.
Ei theitl oedd Burning Secret, sef addasiad o nofel fer o’r un enw a gyhoeddwyd yn 1913 gan Stefan Zweig, y nofelydd o Fienna.
Fe wnaeth Nathan Abrams o Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, ddarganfod y sgript ffilm wrth ymchwilio i’w lyfr nesaf ar ffilm olaf Kubrick, Eyes Wide Shut.
“Am amser maith roedd y sgript ar goll,” meddai Nathan Abrams, a gyhoeddodd yn ddiweddar Stanley Kubrick: New York Jewish Intellectual gyda Rutgers University Press. “Doedd neb yn gwybod a oedd hyd yn oed wedi ei chwblhau.”
“Fe syrthiodd ar fy nglin tra oeddwn yn ymchwilio ar gyfer fy llyfr nesaf, Eyes Wide Shut: Stanley Kubrick and the Making of His Final Film, sydd i’w gyhoeddi gan Oxford University Press y flwyddyn nesaf. Fedrwn i ddim credu’r peth. Doedd yr un ysgolhaig na beirniad wedi gweld y sgript yma am dros drigain mlynedd. Mae mor gyffrous.
“O’r hyn rydw i wedi’i weld mae’r sgript ffilm i weld yn ddilys. Mae’r dyddiad 24 Hydref 1956 arni, ynghyd â stamp Adran Sgript MGM. Roedd i fod i gael ei chynhyrchu gan James B. Harris, ei chyfarwyddo gan Kubrick ac wedi’i hysgrifennu gan Kubrick a Willingham.
Dwi’n tybio bod y sgôr i gael ei lunio gan y cyfansoddwr Gerald Fried, a oedd eisoes wedi llunio sgôr rhai o ffilmiau cynharaf Kubrick.
Nofel fer a adroddir o safbwynt bachgen Iddewig deuddeg oed yw Burning Secret. Mae barwn llyfn ei dafod a sgut am ferched yn cyfeillachu efo’r bachgen mewn spa wyliau yn Awstria er mwyn ceisio cael ei ffordd efo’i fam briod.
Mae’r plentyn yn ei ddiniweidrwydd yn gweithredu fel math o gyfryngwr rhwng ei fam a’r dyn yma sydd â’i lygad arni fel cariad, ac mae’n stori ddigon brawychus gyda themâu rhywioldeb a cham-drin plant yn corddi o dan yr wyneb.
Nôl yn 1956 roedd y Stanley Kubrick ifanc yn dal yn gymharol anadnabyddus, ac newydd gwblhau ei ffilm The Killing.
Gyda’i bartner cynhyrchu, James B. Harris, roedd yn chwilio am broject newydd i roi hwb pellach i’w enw da. Cynigiodd MGM y cynnig cyntaf ar unrhyw eiddo i’r pâr.
Yr un a ddaliodd ei lygad yn wirioneddol oedd Burning Secret . “Roedd Kubrick yn daer iawn am y gwaith,” meddai Harris. “Dwi’n credu bod ganddo lawer iawn o feddwl o Stefan Zweig fel awdur.”
Fe gomisiynodd Kubrick y nofelydd o Greenwich Village, Calder Willingham, i ysgrifennu sgript ar gyfer y ffilm. Byddai Willingham yn mynd ymlaen yn ddiweddarach i weithio ar y sgript ffilm i Paths of Glory yn 1957.
Bu Kubrick yn gweithio ar yr addasiad gyda Willingham ac, yn ôl Harris, “fe gymerodd gryn amser i ddatblygu sgript y Burning Secret.”
“Mae sgript ffilm The Burning Secret yn rhoi golwg gynnar ar y ffordd y cyfieithodd Kubrick idiom fin-de-siècle Awstriadd i un Americanaidd cyfoes,” meddai Nathan Abrams.
“Wrth adleoli’r digwyddiadau i westy yn America mae’n rhagfynegi ei ffilmiau diweddarach, Lolita a The Shining. Ond yr hyn mae’n ei wneud yn amlwg iawn yw rhoi’r templed i’w ffilm olaf, Eyes Wide Shut, yn arbennig o ran i chefndir Awstriaidd-Iddewig a’r sylw y mae’n ei roi i briodas, ffyddlondeb mewn priodas, godineb a rhywioldeb.
“Mae’r barwn suave, sy’n dod yn Americanwr sy’n gwerthu yswiriant, yn sicr yn fodel cynnar i Victor Ziegler a Sandor Szavost yn Eyes Wide Shut.”
Wnaeth y project erioed gael ei wireddu gan i MGM, y stiwdio yr oedd Kubrick yn gweithio iddi ar y pryd, ei ganslo. Byddai fersiwn o’r nofelig, ond wedi’i seilio ar sgript ffilm wahanol, yn cael ei gwneud drachefn gan Andrew Birkin, cynorthwywr Kubrick, yn 1988.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2018