Rhoddodd yr Athro Peter Huxley o'r Gaolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas ym Mhrifysgol Bangor arweiniad arbenigol i'r gwaith o ddatblygu mynegai cynhwysiant cymdeithasol iechyd meddwl (gan yr "Economist Intelligence Unit") sy'n cymharu'r polisïau a'r arferion cynhwysiant iechyd meddwl mewn 38 o wledydd yn Ewrop.
Mae'r mynegai cynhwysiant yn ymdrin â mynediad i wasanaethau, pa mor gynhwysol yw'r amgylchedd i bobl, a pholisïau ac arferion cyflogaeth. Roedd Cymru a Lloegr yn yr ail safle, y tu ôl i'r Almaen.. Mae'r DU yn un o saith gwlad yn Ewrop sydd wedi dechrau defnyddio mesurau canlyniadau a ddatblygir gan ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae gan y DU rai o'r arferion gorau o ran cyflogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, ond polisïau cyflogaeth yn Ewrop yw'r newidyn mwyaf amrywiol ohonynt i gyd.
Siaradodd yr Athro Huxley am y mynegai yn Grŵp Diddordeb Arbennig Senedd Ewrop ar iechyd meddwl ym Mrwsel.
Dywedodd yr Athro Huxley "Rwy'n gobeithio y gellir ailddefnyddio'r mynegai yn y blynyddoedd i ddod er mwyn i ni weld cynnydd o ran cynnwys pobl â phroblemau iechyd meddwl ledled Ewrop".
Dyddiad cyhoeddi: 22 Rhagfyr 2014