Athro o Fangor yn cael ei benodi’n Ddarpar Lywydd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion
Mae'r Athro Chris Collins, Pennaeth Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor, wedi'i ethol yn Ddarpar Lywydd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion. Bydd yn gweithredu fel aelod o driawd arlywyddol y Gymdeithas tan fis Ebrill 2020, pan fydd yn camu i rôl yr Arlywydd.
Mae'r Athro Collins yn dilyn yn ôl troed cerddor blaenllaw arall a Phennaeth Ysgol. Bu'r cyfansoddwr, yr Athro William Mathias yn yr un rôl ym 1989-90.
Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion yw corff proffesiynol y Deyrnas Unedig ar gyfer cerddorion a hi yw'r gymdeithas bwnc ar gyfer cerddoriaeth. Mae'n chwarae rhan weithredol o ran hyrwyddo pwysigrwydd cerddoriaeth a gwarchod hawliau'r rhai sy'n gweithio yn y proffesiwn cerdd, ac mae ganddi dros 9,000 o aelodau.
Dywedodd yr Athro Collins:
“Rwy’n falch iawn o fod yn gwneud hyn ar adeg o anawsterau na welwyd mo'u tebyg o'r blaen i gerddoriaeth a’r celfyddydau yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys toriadau parhaus i addysg gerddorol, dadleuon ynghylch amrywiaeth ac urddas, a newidiadau i'r ffyrdd y mae cerddorion yn derbyn refeniw.
Yn sicr, y Gymdeithas hon yw'r fwyaf gweithgar yn wleidyddol o gymdeithasau pwnc Cerddoriaeth y Deyrnas Unedig, ac mae mewn cysylltiad cyson â seneddwyr.”
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2019