Athro o Fangor yn ymweld â China i arwain creadigaeth a dysgu cwrs newydd mewn Cyfraith Droseddol Ryngwladol
Bu'r Athro Suzannah Linton, Athro Cyfraith Ryngwladol a Chyfarwyddwr y Ganolfan Cyfraith Ryngwladol ym Mangor, yn China'n ddiweddar ar gyfer cyfres ddwys o ddysgu, darlithoedd cyhoeddus a beirniadu mewn achosion llys ffug.
Gwahoddwyd yr Athro Linton i gynllunio a dysgu'r cwrs cyntaf erioed mewn Cyfraith Droseddol Ryngwladol yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Zhejiang Gongshang, Hangzhou. Dros gyfnod o dair wythnos yn Nhachwedd a Rhagfyr 2012 fe wnaeth 42 o fyfyrwyr gymryd ei chwrs, a gyflwynwyd yn Saesneg.
Ar ddiwedd llwyddiannus ei chwrs, traddododd yr Athro Linton ddarlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Zhejiang Gongshang ar un o'i phrif brojectau ymchwil, ‘Hong Kong’s War Crimes Trials, 1946-1948’. Trafododd sut mae ei hymchwil wedi amlygu proses o atebolrwydd am droseddau rhyfel sydd wedi mynd yn angof bellach. Roedd hynny, ymysg pethau eraill, wedi ei harwain i greu cronfa ddata ar-lein ac ysgrifennu erthygl gyffredinol ar y pwnc a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y Melbourne Journal of International Law. Caiff llyfr yr Athro Linton ar y pwnc, a gomisiynwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen, ei gyhoeddi yn 2013.
Cafodd yr Athro Linton ei gwahodd hefyd gan yr International Committee of the Red Cross (ICRC) i fod yn feirniad yn 6ed Cystadleuaeth Ryngwladol Ffug Achosion Llys Cyfraith Ddyngarol China, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Wuhan o 8-10 Rhagfyr 2012. Traddododd yr Athro Linton ddarlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Wuhan ar ‘Evolving approaches to human rights in armed conflict’, gan drafod dulliau gweithredu newydd sy'n dod i'r amlwg o Lys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbwrg. Cafodd y fraint o feirniadu rownd derfynol y gystadleuaeth ffug achosion llys a barodd 3 diwrnod, ynghyd â'r Anrhydeddus Ustus Liu Daqun o Siambr Apêl y Tribiwnlysoedd Troseddol Rhyngwladol ar gyfer yr hen Iwgoslafia a Rwanda, a Mr. Richard Desgagne, Cynghorwr Cyfreithiol Rhanbarthol dros Ddwyrain a De-ddwyrain Asia i'r International Committee of the Red Cross (ICRC). Roedd yr Athro Linton o'r blaen wedi beirniadu rownd derfynol 4edd Cystadleuaeth Ryngwladol Ffug Achosion Llys Cyfraith Ddyngarol China, a gynhaliwyd yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Renmin yn Beijing yn 2010.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2013