Athro o SENRGy yn ennill gwobr bwysig gan Academi Gwyddorau China!
Yn Ionawr 2013 fe wnaeth yr Athro Davey Jones o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ennill gwobr bwysig 'Cadair Ymweld i Uwch Wyddonwyr Rhyngwladol' gan Academi Gwyddorau China. Fel rhan o'r wobr, traddododd yr Athro Jones gyfres o ddarlithoedd ar gynaliadwyedd pridd i Academi Gwyddorau China yn Changsha, lle mae'r Sefydliad Amaethyddiaeth Is-Drofannol i'w gael. Mae Prifysgol Bangor wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda'r Academi i hwyluso cyfnewid gwyddonwyr a chynnal projectau ymchwil ar y cyd.
Meddai'r Athro Jones, "Mae China'n wynebu llawer o sialensiau amgylcheddol tebyg i'r rhai a welwn ni yma yng Nghymru ac mae trosglwyddo gwybodaeth yn bwysig iawn wrth geisio datrys y problemau yma. Rydym yn gobeithio y bydd myfyrwyr ac ymchwilwyr yn elwa'n fawr yn y blynyddoedd i ddod oddi wrth y cyswllt ffurfiol yma rhwng Cymru a China."
Yn y llun gwelir yr Athro Wu o Academi Gwyddorau China yn cyflwyno'r wobr i'r Athro Jones yn Changsha; Dr Paula Roberts o SENRGy.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2013