Athro Prifysgol Bangor yn curadu Mis Hanes Iddewig 2019
Mae'r Athro Nathan Abrams, academydd yn Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor, wedi chwarae rhan fawr yn curadu'r rhaglen ar gyfer y Mis Hanes Iddewig, Mawrth 2019.
Thema'r Mis Hanes Iddewig eleni yw Sgrin Fawr Sgrin Fach, Iddewon yn Sinema a Theledu Prydain.
Mae'n cynnwys amrywiol ddigwyddiadau; sesiynau blasu, dangosiadau, taith gerdded, teithiau, trafodaethau, sgyrsiau a darlithoedd gyda darluniau - mewn amrywiaeth o leoliadau; sinemâu eiconig, adeiladau cymunedol, synagogau, stiwdios ffilm, amgueddfeydd - ac mewn lleoliadau ledled Lloegr; Llundain, Manceinion, Leeds, Lerpwl, Southampton, Bryste, Sussex, Essex a Swydd Hertford.
Mae llawer o haneswyr, arbenigwyr a phobl adnabyddus o'r radd flaenaf wedi cytuno i gymryd rhan. Mae'r Athro Abrams ymhlith y siaradwyr, a bydd yn traethu am James Bond a Stanley Kubrick, a phynciau eraill.
Bydd y sesiynau'n archwilio tarddiadau a themâu Iddewig James Bond, Ealing Studios a Michael Balcon, Iddewesau a fu'n wneuthurwyr ffilmiau, dramâu teledu Iddewig o Brydain. Bydd taith gerdded o amgylch Elstree Iddewig a hyd yn oed daith ar fws Routemaster clasurol i ymweld â threftadaeth sinema dwyrain Llundain a'r cymdeithasau Iddewig sydd yno.
Mae Nathan Abrams yn Athro mewn Ffilm ac yn arbenigwr ar rôl a chynrychiolaeth yr Iddewon mewn ffilm a theledu ym Mhrydain. Yn ddiweddar, daeth i sylw'r byd yn y cyfryngau ar ôl iddo ddarganfod sgript ffilm gan Stanley Kubrick a fu ar goll am dros hanner can mlynedd. Dywedodd yr Athro Abrams, "Dyma raglen uchelgeisiol a chyffrous, sy'n ceisio datgelu hanes sydd heb ei adrodd o'r blaen am y rôl arloesol a chwaraeodd yr Iddewon mewn ffilm a theledu yn y Deyrnas Unedig. Dewch yn llu, bydd yn fis gwych."
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2019