Awdur lleol yn rhoi copi o’i lyfr newydd i Lyfrgell Prifysgol Bangor
Mae awdur lleol, Dr Robert Atenstaedt, wedi cyflwyno copi o’i lyfr ar feddygaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i lyfrgell Prifysgol Bangor.
Ganed Dr Robert Atenstaedt ym Mangor, a threuliodd ei flynyddoedd cynnar yng Nghricieth, cyn symud oddi yno i astudio. Ar hyn o bryd mae’n Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd ac yn Gyfarwyddwr Cydymaith Iechyd y Cyhoedd efo Iechyd y Cyhoedd Cymru ac yn Uwch Ddarlithydd er Anrhydedd yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol, Prifysgol Bangor.
Wrth gynnal ymchwil ar gyfer ei ddoethuriaeth mewn hanes meddygaeth, daeth Dr Atenstaedt ar draws gwaith gwyddonol a ysgrifennwyd yn 1917 ar heintiau oedd yn gysylltiedig â’r ffosydd. Sbardunodd hyn ei ddiddordeb personol a arweiniodd at ei lyfr.
“Roedd hyn yn gyfnod hynod ddiddorol mewn hanes, ac wrth gwrs, bu farw’r person olaf a fu’n ymwneud yn uniongyrchol â’r rhyfela yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn eithaf diweddar. Mae’n bwysig cofio beth ddigwyddodd, ac mae’r llyfr yma wedi ei gyflwyno er cof am dros fil o ddoctoriaid yn y Royal Army Med Corps a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
“Rydym yn ymwybodol o’r nifer fawr o filwyr a fu farw, ond weithiau rydym yn anghofio am y doctoriaid a gollodd eu bywydau. Roedd eu swyddogaeth hwythau’n un beryglus hefyd.”
Esbonia Dr Atenstaedt: “Un o’r heintiau dwi’n edrych arno ydy twymyn y ffosydd (trench fever) a oedd yn broblem fawr ar y pryd, gan achosi tua 450,000 o farwolaethau. Fe wnaeth yr ymateb i heintiau’r ffosydd, a ddisgrifir yn y llyfr, gyfrannu at ddatblygiad gwyddor feddygol mewn labordy ac ymchwil feddygol. Cyfrannodd hyn, yn ei dro, at ddarganfyddiadau mwy diweddar. Rwy’n falch o gael cyflwyno’r copi yma i Lyfrgell Prifysgol Bangor.”
Mae gan Dr Atenstaedt ddiddordeb mewn ysgrifennu gan fod ei daid, Grŵp-gapten Leslie Bonnet o Gricieth, yn ysgrifennwr straeon byrion nodedig.
Cyhoeddwyd ‘The Medical Response to the Trench Diseases in World War One’ gan Cambridge Scholarship Publishing 1 Mehefin 2011.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2011