Awduron Cyfoes yn Ysgol y Gymraeg
Ar ddydd Mercher, Ionawr 25, daeth dau awdur cyfoes - un o Gymru a’r llall o Slofenia - i drafod eu gwaith gyda myfyrwyr Ysgol y Gymraeg.
Fel rhan o’r modiwl ‘Llenyddiaeth Gyfoes’, daeth yr awdur o Gymro, Lloyd Jones, atom i drafod ei nofel, Y Dŵr. Mae hon yn un o’r nofelau mwyaf trawiadol i’w chyhoeddi yn y Gymraeg mewn blynyddoedd diweddar , ac mae’n cadarnhau safle Lloyd Jones yn un o awduron pwysicaf Cymru heddiw - yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Yn ystod ei sgwrs soniodd Lloyd am ei brofiad o gerdded o gwmpas Cymru sawl gwaith, a phwysigrwydd y byd naturiol yn ei waith. Er ei fod fel newyddiadurwr wedi hen arfer ysgrifennu yn Saesneg, cael comisiwn oddi wrth wasg Y Lolfa a barodd iddo fynd ati am y tro cyntaf i fentro ysgrifennu nofel yn y Gymraeg.
Erbyn hyn mae ei ail nofel yn y Gymraeg, Y Daith (2011) wedi ei chyhoeddi gan Y Lolfa. Enillodd ail nofel Lloyd Jones yn Saesneg, Mr Cassini, wobr Llyfr y Flwyddyn rai blynyddoedd yn ôl. Yn y llun gwelir Lloyd yn sgwrsio gydag un o fyfyrwyr yr adran, Mr John Gruffydd Jones.
*
Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, yn rhan o gyfres o seminarau Ysgrifennu Creadigol Ôl-radd yn Ysgol y Gymraeg, daeth yr awdures nodedig o Slofenia, Marusa Krese, atom i ddarllen peth o’i barddoniaeth ac i drafod ei chefndir llenyddol, diwylliannol a gwleidyddol yn Slofenia. Mae Marusa ar hyn o bryd yn awdures breswyl yng nghanolfan ysgrifennu cenedlaethol Ty Newydd, a hynny dan nawdd Ty Cyfieithu Cymru.
A hithau bellach yn byw ym Merlin, soniodd am flynyddoedd anodd y rhyfel yng ngyn-wledydd Iwgoslafia, ac am ei gwaith gyda dioddefwyr y rhyfel yn Sarajevo. Bu hefyd, yn rhinwedd ei gwaith fel newyddiadurwraig i bapurau newydd yr Almaen, yn ymweld â Phacistan ac India. Roedd llawer o’i gwaith yn deillio o’r profiadau hyn. Ar hyn o bryd, mae Marusa yn cwblhau nofel ar brofiadau’r cyfnod cyn ac wedi’r Ail Ryfel Byd yn Slofenia: profiadau cymhleth cenhedlaeth ei rhieni.
Yn y llun gwelir Marusa Krese yng nghwmni cyfarwyddwraig Ty Newydd, Sally Baker.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012