Awr Ddaear 2018
Mae’r Brifysgol yn helpu i adeiladu dyfodol disgleiriach trwy gefnogi Awr Ddaear WWF. Mae hwn yn ddigwyddiad trawiadol a symbolaidd lle diffoddir y goleuadau ac mae’n tynnu sylw’r byd at ein planed a’r angen i’w gwarchod.
I ddathlu’r degfed Awr Ddaear yng Nghymru, bydd y Brifysgol yn diffodd y llifoleuadau ar ei Brif Adeilad am yr awr, ac yn annog staff a myfyrwyr i ymuno drwy gymryd y camau y gallant.
“Rydym yn falch i gymryd rhan yn Awr Ddaear ac yn gyffrous ynghylch bod yn rhan o ddigwyddiad mor fawr sy’n ysbrydoli cymaint. Gall pawb wneud gwahaniaeth i helpu i warchod ein planed ac mae gennym ni i gyd ran allweddol i’w chwarae," meddai Dr Liz Shepherd, Swyddog Cynaliadwyedd a Chydlynydd Ynni’r Campws.
Meddai Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru:
“Rydyn ni wrth ein bodd y bydd adeilad eiconig y Brifysgol sydd yn eistedd uwchben dinas Bangor yn cymryd rhan yn Awr Ddaear eleni ac yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli llawer o bobl eraill i gymryd rhan hefyd. Drwy gymryd un cam syml, sef diffodd eich goleuadau, byddwch yn ymuno â miliynau o bobl o bob cwr o’r byd yn y dathliad arbennig hwn.”
Mae cymryd rhan yn Awr Ddaear yn weithred symbolaidd i gefnogi gwarchod ein planed wych. Gyda’n gilydd gallwn sicrhau newid.
Mae’r Bryifysgol yn ymuno â lleoliadau ac adeiladau amlycaf Cymru, gan gynnwys y Senedd ym Mae Caerdydd, Castell Caernarfon, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth a Phont Gludo Casnewydd, ynghyd â miloedd o adeiladau a strwythurau eiconig ledled y byd, o Bont Harbwr Sydney i Times Square yn Efrog Newydd, wrth iddynt ddangos eu cefnogaeth. Mae arddangosiad unigryw Awr Ddaear o dywyllwch wedi troi’n ddigwyddiad byd-eang, gyda channoedd o filiynau o unigolion yn dod ynghyd bob blwyddyn.
Gall pawb ymuno ag Awr Ddaear WWF 2018. Ewch i wwf.org.uk/awrddaear i weld sut gallwch chi gefnogi - a chofiwch ddiffodd eich goleuadau am awr am 8.30pm ar nos Sadwrn 24 Mawrth.
Am ragor o newyddion cynaliadwyedd dilynwch y ddolen: http://planet.cymru/cy/category/news-uni/
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2018