Baner yr Enfys yn hedfan ar Brifysgol Bangor heddiw!
Mae Prifysgol Bangor yn croesawu myfyrwyr a staff o bob cefndir, tarddiad, cred a chyfeiriadedd rhywiol. Ac rydym yn falch o hynny!
Hanner can mlynedd yn ôl, ar 28 Mehefin 1969, digwyddodd Terfysgoedd Stonewall yn Ninas Efrog Newydd. Roedd y rhain yn gyfres o wrthdystiadau treisgar, digymell gan aelodau o'r gymuned LHDT yn wyneb aflonyddu a gelyniaeth gynyddol tuag atynt o du'r heddlu. Ystyrir mai'r rhain oedd y digwyddiad pwysicaf a arweiniodd at y mudiad rhyddid i hoywon a'r frwydr fodern dros hawliau LHDT+. Dewiswyd mis Mehefin fel Mis Balchder LHDT+ i goffáu terfysgoedd Stonewall, ac eleni mae Prifysgol Bangor yn hedfan baner yr Enfys i nodi'r digwyddiad hanesyddol pwysig hwn ac i ddathlu ymrwymiad y brifysgol i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Mae'r diwrnod hefyd yn nodi lansiad swyddogol Rhwydwaith LHDT+ Griff Vaughan Williams y brifysgol ar gyfer staff a myfyrwyr ôl-raddedig. Ffurfiwyd y grŵp i weithredu fel fforwm ar gyfer rhwydweithio a ffordd o gefnogi materion LHDT+, yn ogystal â rhoi lle amlycach i faterion LHDT + yn y gweithle ac mewn gwahanol Golegau yn y brifysgol.
Meddai Andrew Walker, cyd-arweinydd y rhwydwaith newydd: “Cafodd y rhwydwaith ei enwi i anrhydeddu Griff Vaughan Williams, eiriolwr tanbaid dros hawliau pobl LHDT. Disgrifiwyd Griff fel llais hoyw grymus, a oedd wedi ymroi i wirionedd a chydraddoldeb. Cafodd ei eni ym Mangor ym 1940 a bu farw yn 2010. Rydym eisiau anrhydeddu'r cof amdano gyda'r rhwydwaith newydd hwn a sicrhau bod Prifysgol Bangor yn parhau i gryfhau ei hymrwymiad i gydraddoldeb a chynwysoldeb i bobl LHDT.”
Cred y Rhwydwaith newydd y bydd y diwrnod hwn yn dod yn garreg filltir i'r brifysgol a'r ardal leol o ran integreiddio LHDT+. Dywedodd Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor dros Gyfrwng Cymraeg a Chysylltiadau â'r Gymuned - “Rwy'n falch iawn o'r ffaith y gellir gweld baner yr Enfys ar ben prif adeilad Prifysgol Bangor. Mae'n arwydd allanol amlwg o bopeth sy'n digwydd yn fewnol yn y brifysgol i sicrhau bod ein cymuned yn un gynhwysol. Un o'r agweddau mwyaf cyffrous ar hyn yw lansio Rhwydwaith LHDT+ Griff Vaughan Williams - a fydd yn helpu i sicrhau bod materion LHDT+ yn cael y sylw y maent yn ei haeddu drwy gydol y flwyddyn. ”
Mae Rhwydwaith LHDT+ Griff Vaughan Williams yn cynnal cyfarfodydd bob yn ail mis ac os hoffech gymryd rhan neu rannu unrhyw syniadau, cysylltwch ag andrew.walker@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2019