Bangor i gynnal noson wobrwyo cystadleuaeth ffuglen ddigidol 'boblogaidd' gyntaf y DU
Bydd y gystadleuaeth gyntaf yn y DU i ddarganfod yr enghreifftiau gorau o ffuglen ddigidol boblogaidd newydd yn gwobrwyo ei henillwyr nos Iau, 25 Mai ym Mhrifysgol Bangor.
Bydd yr Opening Up Digital Fiction Writing Competition, a drefnwyd gan Brifysgol Sheffield Hallam a Phrifysgol Bangor, ac sy'n rhan o'r project Reading Digital Fiction yn rhoi gwobrau i enillwyr yn y categorïau "Judges’ Prize", "People’s Choice", "Student Prize" a "Children’s Story Prize".
Gwahoddir y cyhoedd i'r digwyddiad a gynhelir am 7 o'r gloch ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor. Gellir gweld manylion y digwyddiad yma. Mae croeso i bawb ddarllen a phleidleisio ar restr fer y "People’s Choice" trwy fynd i wefan y gystadleuaeth.
Mae ffuglen ddigidol yn wahanol i e-lyfrau, mae ffuglen ddigidol "wedi'i geni'n ddigidol" - hynny yw, byddai'n colli rhywbeth ar ei ffurf a'i hystyr petai'n cael ei symud o'r cyfrwng digidol.
Gyda ffuglen ddigidol, mae'n rhaid i'r darllenydd ryngweithio gyda'r naratif trwy gydol y profiad darllen. Gall hyn gynnwys hypergysylltiadau, delweddau sy'n symud, gemau bach neu effeithiau sain.
Mewn sawl ffuglen ddigidol, mae gan y darllenydd swyddogaeth o ran adeiladu'r naratif trwy reoli taith cymeriad trwy'r stori.
Gall enghreifftiau o wahanol fathau o ffuglen ddigidol gynnwys hypergysylltiadau, gemau antur-testun, storïau amlgyfrwng, fideo rhyngweithiol, gemau llenyddol a rhai rhaglenni symudol.
Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol, cael cyhoeddi eu gwaith ar wefan "Reading Digital Fiction", a chyfres o gyfarfodydd mentora gyda beirniaid dethol ar broject ffuglen ddigidol yn y dyfodol.
Dr Alice Bell, darllenydd yn yr adran ddyniaethau ym Mhrifysgol Sheffield Hallam, sy'n trefnu'r project "Reading Digital Fiction" gyda Dr Lyle Skains o Brifysgol Bangor, ymarferydd-ymchwilydd ffuglen ddigidol yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau.
Meddai Dr Bell: "Mae cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr ac awduron yn gweld y cyfryngau digidol fel modd deinamig a hudolus o ddarllen ffuglen. Rydym yn ceisio adlewyrchu hyn yn y project "Reading Digital Fiction" trwy ennyn diddordeb cynulleidfaoedd sy'n bodoli eisoes yn ogystal â chyflwyno mwy o ddarllenwyr i'r dull hwn o adrodd straeon.
"Mae'r gystadleuaeth wedi ei chynllunio i ehangu'r nifer sy'n darllen ffuglen ddigidol fel eu bod yn cynnwys rhan ehangach o'r cyhoedd ac mae'n agored i unrhyw awdur - yn rhai hen a newydd - a phob math o ffuglen ddigidol. Rydym yn awyddus i gael straeon fydd yn hygyrch i wahanol gynulleidfaoedd ac yn gydnaws ag amryw o wahanol ddyfeisiau."
Meddai Dr Skains: "Fel awdur ffuglen ddigidol, rwy'n edrych ymlaen at weld y cyhoedd yn ymwneud mwy â'r ffurf hon, ac i weld ffurfiau mwy poblogaidd yn dod i'r amlwg yn sgil hynny. Mae ein beirniaid, hefyd, wedi dangos diddordeb mawr mewn gweld yr hyn gall ffuglen ddigidol ei wneud yn y brif ffrwd. Mae'n bleser mawr gennym gael beirniaid gyda phroffil uchel ar y panel, yn cynnwys awduron ffuglen ddigidol poblogaidd iawn ac ymchwilwyr Cymraeg yn y cyfryngau digidol ac ym maes creadigrwydd. "
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2017