Bangor’s Students Union nominated for seven Awards
Mae Undeb y Myfyrwyr gweithgar Prifysgol Bangor wedi ei enwebu am ddim llai na saith Gwobr yng Ngwobrau Blynyddol Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM Cymru)
Bu panel o feirniaid annibynnol yn cwtogi’r rhestr hir o dros 80 o enwebiadau i lawr i’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau eleni.
Mae’r Undeb ei hun ym Mangor ar restr fer ‘Undeb Myfyrwyr Addysg Uwch y Flwyddyn’ a Rhys Dart, Rheolwr yr Undeb, ar restr fer Gwobr Simpson-King i Aelod Staff y Flwyddyn mewn Undeb Myfyrwyr. Ac yntau’n Gadeirydd y Gymdeithas Ddaearyddol, sydd wedi’i henwebu am Wobr Clwb neu Gymdeithas y Flwyddyn, mae Chris Bibby yntau wedi’i enwebu am wobr Myfyriwr y Flwyddyn Endersleigh. Mae dau o Fangor ymhlith pedwar enwebiad am Gynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn: Martyn Curzey, o Ysgol Gemeg y Brifysgol a Marta Napodano, sy’n cynrychioli ei chyd fyfyrwyr yn Ysgol y Saesneg. Mae Katherine Young, sydd yn ysgrifennu i bapur Cymraeg y Brifysgol, Y Llef, ar restr fer gwobr Myfyriwr Newyddiadurol y Flwyddyn.
Meddai Antony Butcher, Llywydd Undeb y Myfyrwyr: “Mae’n wirioneddol wych gweld bod UCM Cymru’n cydnabod ein bod yn Undeb sy’n gweithio’n galed dros ein haelodau a chyda chymaint o fyfyrwyr a staff ymroddedig a dawnus. Fel yr ydym yn symud ymlaen tuag at ein cartref newydd yn Pontio, mae’n bwysig ein bod yn parhau i weithio’n galed i ddatblygu’r profiad a gaiff myfyrwyr a chael effaith bositif ar ein myfyrwyr. Rydym wedi’n plesio’n fawr ein bod yn un o bedwar enillydd posib Undeb Myfyrwyr AU y Flwyddyn ac yn edrych ymlaen at y noson wobrwyo yng Nghasnewydd - gan obeithio dod â rhai o’r gwobrau’n ôl i’r Gogledd.”
O ganlyniad i’w swydd fel Cadeirydd y Gymdeithas Ddaearyddol, mae Chris Bibby ar restr fer am wobr bersonol. Meddai, ar ran y Gymdeithas “Rwy’n falch iawn ein bod wedi dod cyn belled, a thu hwnt i ddisgwyliadau’r pwyllgor. Ni fyddai’n bosib cyflawni cymaint heb waith arbennig ein pwyllgor ac ymdrech yr holl aelodau a’r staff, a fu'n mwynhau’r cyfan. Mae cael ein henwebu’n gryn gamp a byddai ennill yn golygu llawer i’r adran ym Mangor, y staff a’r myfyrwyr fel ei gilydd.”
Enillodd y Gymdeithas Ddaearyddol wobr ‘Cymdeithas y Flwyddyn’ a ‘Gwobr Amgylcheddol’ Undeb Myfyrwyr Bangor am eu hymdrechion diflino dros Fasnach Deg a’r ‘Wythnos Ewch yn Wyrdd’. Yn yr un Gwobrau, enillodd Chris Bibby Wobr Aur a’r Is-gadeirydd, Charlie Wild, Wobr Arian am eu cyfraniadau clodwiw i’w hundeb myfyrwyr.
Meddai Marta Napodano, sydd ar restr fer am Wobr Cynrychiolydd Cwrs y flwyddyn: “Mae cael gwasanaethu fel Cynrychiolydd Cwrs Ysgol y Saesneg yn brofiad gwych. Fel myfyrwraig ryngwladol, roeddwn yn gweld yr un pryderon a chwestiynau a oedd gen i fy hun yn codi ymysg eraill, a chafodd bod o gymorth i fyfyrwyr yn ystod eu dyddiau dryslyd cyntaf yma gryn effaith arnaf. Roedd medru ateb hyd yn oed yr ymholiad lleiaf a rhoi gwên ar wyneb rhywun yn fwy na digon o wobr!”
Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi ar ôl cinio mawreddog yng Ngwesty’r Hilton, Casnewydd, nos Fercher 13 Mawrth. Y panel annibynnol o feirniaid a fydd yn dewis yr enillwyr yw: Cyn Lywydd UCMC Vaughan Gething AC; Gareth Evans, Gohebydd Addysg y Western Mail a Jean McLean, Pennaeth Ymgyrchoedd Mudiad Achub y Plant.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2013