Mewn tabl cynghrair sydd newydd ei gyhoeddi mae Prifysgol Bangor yn ymddangos ymysg sefydliadau gorau'r byd. Rhestrir y Brifysgol yn y 200 prifysgol uchaf yn achos pedwar o'r 30 o bynciau sy'n ymddangos eleni yn y tabl dylanwadol 'QS World University Rankings by Subject' (www.topuniversities.com).
Croesawyd y newydd gan Is-ganghellor Bangor, Yr Athro John G. Hughes, a ddywedodd:
“Erbyn hyn mae presenoldeb Prifysgol Bangor i'w deimlo ledled y byd. Mae'r Brifysgol yn darparu addysg ac ymchwil o ansawdd uchel sy'n gwneud cyfraniad pwysig yn rhanbarthol a byd-eang. Mae’r tabl yma'n dangos ein henw da cynyddol yn rhyngwladol."
Amaethyddiaeth a Choedwigaeth, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Ieithyddiaeth a Seicoleg yw'r pynciau y daeth Prifysgol Bangor i'r 200 uchaf yn y byd ynddynt. Gwelwyd dysgu ac ymchwilio ym maes Amaethyddiaeth a Choedwigaeth ym Mangor ers dros ganrif, ac eleni mae Coedwigaeth yn dathlu 110 o flynyddoedd ers ei sefydlu'n bwnc yn y Brifysgol. Mae'r pynciau hyn yn rhan academaidd allweddol o ddarpariaeth yr Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth!
Mae Ysgol Seicoleg y Brifysgol, sy'n un o'r rhai mwyaf ym Mhrydain, yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 eleni, ac mae'n recriwtio darlithwyr ymchwil o blith y goreuon yn eu meysydd yn fyd-eang. Mae Seicoleg ac Ieithyddiaeth wedi ymddangos yn y Tabl ers iddo ddechrau cael ei gyhoeddi yn 2011, tra mae Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yn ymddangos am y tro cyntaf.
Cafodd y QS Subject Rankings eu lansio yn 2011 ac maent yn arweiniad i ystod o feysydd astudio poblogaidd mewn prifysgolion ar draws y byd. Fe wnaeth y detholwyr gloriannu 2,809 o brifysgolion a rhestru 1,344 o sefydliadau i gyd. Roedd y safleoedd wedi'u seilio ar ymatebion gan academyddion a chyflogwyr ledled y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2014