Bangor yn arwain Prifysgolion Cymru o ran bod yn ‘wyrdd’
Prifysgol Bangor yw’r Brifysgol fwyaf ‘gwyrdd’ yng Nghymru, yn ôl ’People and Planet’, sef y rhwydwaith myfyrwyr mwyaf ym Mhrydain sy’n ymgyrchu i ddod â thlodi byd-eang i ben, cefnogi hawliau dynol ac amddiffyn yr amgylchedd. Yng Nghynghrair 2013, a gyhoeddwyd ym mhapur newydd The Guardian, roedd Prifysgol Bangor ar y brig o blith prifysgolion Cymru, ac ymysg yr 20 prifysgol ar frig y Gynghrair Werdd o brifysgolion y DU.
Deallodd y Brifysgol ei bod wedi ennill Lefel 5 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd, am ei hymroddiad parhaus i sicrhau gwelliannau amgylcheddol.
Meddai Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol y Brifysgol, a dderbyniodd y Wobr ‘Werdd’ o blith y gwahanol wobrau a roddir gan fyfyrwyr y Brifysgol, “ Wrth wneud y cais eleni fe wnaethom roi sylw i gyraeddiadau’r 12 mis a aeth heibio. Mewn ychydig wythnosau llwyddodd ein System Rheoli’r Amgylchedd i ennill Lefel 5 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd (sy’n cyfateb i ISO14001), yn ogystal â chadw’n safle Dosbarth Cyntaf yn y Gynghrair Werdd. Hefyd buom yn lansio ein gwefan cynaladwyedd newydd, PrifBlaned, yn ystod Wythnos Cynaladwyedd Cymru. Yn ogystal, derbyniodd ein Hundeb y Myfyrwyr Gwobr Arbenigedd Trawiad Werdd yng Ngwobrau Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM).”
Meddai Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro John G. Hughes, “Rwyf wrth fy modd gyda’r cynnydd rydym yn ei wneud yma ym Mangor wrth reoli ein heffaith ar yr amgylchedd. Mae’r llwyddiannau hyn yn dyst i’r gwaith tîm ac i ymroddiad staff gwasanaethau cefnogol, academyddion mewn ysgolion a cholegau, ein myfyrwyr a’r gymuned leol. Rydym yn falch o fod y Brifysgol fwyaf gwyrdd yng Nghymru, wedi i ni lwyddo i aros ar y brig ymysg prifysgolion Cymru am bedair blynedd yn olynol.”
Am ragor o wybodaeth am berfformiad amgylcheddol y Brifysgol ewch i we-dudalennau PrifBlaned. (http://www.bangor.ac.uk/sustainability/index.php.cy?)
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2013