Bangor yn arwain prosiect arloesol i drawsnewid addysg cyfraith cyfrwng Cymraeg
Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor wedi llwyddo i ennill grant strategol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i arwain prosiect traws-sefydliad cyffrous. Y bwriad yw paratoi cyfres o werslyfrau pynciol Cymraeg eu hiaith ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio’r Gyfraith ym mhrifysgolion Cymru, a hynny gan arbenigwyr cydnabyddedig yn y meysydd perthnasol.
Er mai myfyrwyr yw prif darged y cyhoeddiadau, rhagwelir y bydd y cyfrolau o ddiddordeb i gynulleidfa llawer ehangach, gan mai’r bwriad yw egluro egwyddorion cyfreithiol sylfaenol mewn Cymraeg clir a hygyrch. Bydd y prosiect hefyd yn fodd i gysoni a gwreiddio termau cyfreithiol Cymraeg, yn ogystal ag adeiladu llyfrgell gyfreithiol Cymraeg.
Penodwyd Bwrdd Golygyddol i’r gyfres gydag ystod eang o brofiad cyfreithiol. Bydd yr Athro Thomas Watkin (sef y cadeirydd), addysgwyr o bob ysgol y gyfraith yng Nghymru, ynghyd ag arbenigwyr o wasanaethau cyfreithiol y Llywodraeth, o’r farnwriaeth, ac o’r proffesiynau, yn cefnogi’r fenter yn ymarferol.
Ddoe, yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor, arwyddwyd cytundeb gydag awdur y gyfrol gyntaf yn y gyfres, sef y gyfrol ar Cyfraith Gyhoeddus. Mae’r awdur, Keith Bush, yn enw adnabyddus fel cyn-Brif Gynghorydd Cyfreithiol y Cynulliad ac fel Cyfarwyddwr Sefydliad Cymru’r Gyfraith. Mae newydd ei benodi’n Gwnsler y Frenhines er Anrhydedd fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad arloesol at annog gwell dealltwriaeth o sut mae Datganoli yng Nghymru yn eistedd gyda chyfraith Cymru a Lloegr. Gobeithir cyhoeddi’r gyfrol ar Cyfraith Gyhoeddus erbyn diwedd y flwyddyn.
Eglurodd Carys Aaron, rheolwr y prosiect a darlithydd rhan-amser yn Ysgol y Gyfraith ym Mangor: “Fel mewn cynifer o feysydd, mae’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer israddedigion ym maes y gyfraith yn parhau i wella. Bydd y prosiect yma yn tanategu’r datblygiad hwn. Nododd yr Athro Gwynedd Parry yn ei gyfrol Cymru’r Gyfraith mai y ‘maen tramgwydd sylfaenol yw diffyg llyfrau ... i egluro’r gyfraith yn Gymraeg’. Bwriad pennaf y prosiect hwn yw ateb y galw hwnnw, fel y gall ein prifysgolion baratoi cenhedlaeth newydd o gyfreithwyr, bargyfreithwyr ac ymarferwyr cyfreithiol eraill a fydd yn gyfforddus a hyderus ddwyieithog.”
Yn croesawu’r prosiect, sydd wedi bod mewn datblygiad dros pum mlynedd, arsylwyd yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth yr Ysgol: “Pan awgrymais y syniad hwn i’r Llywodraeth Cymraeg dros pum mlynedd yn ôl, doedd dim llawer o awydd i gyllido’r prosiect. Er hynny, dros amser, gwelwyd gwir angen o lyfrau testun, a rwyf yn falch bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi derbyn y sialens ac mynd ati i gyllido’r prosiect. Mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn falch i gefnogi’r cyfraniad hwn tuag at ehangu ysgolheictod cyfraith Cymraeg.”
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2014