Bangor yn cadw’i safle ymhlith Prifysgolion y Byd
Mae Prifysgol Bangor wedi cadw’i safle fel un o’r 350 o brifysgolion gorau’r byd, yn ôl y Times Higher Education World University Rankings a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 2 Hydref 2014).
Y rhestr hon, sy’n cynnwys Prifysgol Bangor fel un o brifysgolion gorau’r byd, yw’r ddiweddaraf mewn nifer o dablau cynghrair ac arolygon sydd wedi dod â chlod i’r brifysgol.
Prifysgol Bangor yw’r orau yng Nghymru ac mae ymysg y 10 prifysgol gorau yn y DU o ran boddhad ei myfyrwyr yn ôl arolwg cenedlaethol cynhwysfawr yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr a gyhoeddwyd ar ddechrau’r haf, gyda’r Times & Sunday Times Good University Guide yn gosod y Brifysgol ymhlith y 50 prifysgol orau yn y DU.
Dangosodd arolwg arall mwy penodol bod Prifysgol Bangor wedi gwneud argraff dda ar fyfyrwyr newydd sy’n dechrau astudio yn y brifysgol. Roedd yr arolwg YouthSight yn gosod Prifysgol Bangor ymhlith y 10 prifysgol orau yn y DU am wneud yr argraff gyntaf ffafriol ar fyfyrwyr newydd. Dangosodd ymchwil YouthSight hefyd bod cysylltiad cryf rhwng argraffiadau cynnar myfyrwyr o'u prifysgol a chanran uwch o fyfyrwyr yn cwblhau eu hastudiaethau’n llwyddiannus.
Gan groesawu’r newyddion am enw da’r brifysgol yn rhyngwladol, dywedodd Is-ganghellor Bangor, Yr Athro John G. Hughes:
“Erbyn hyn mae presenoldeb Prifysgol Bangor i'w deimlo ledled y byd. Mae'r brifysgol yn darparu addysg ac ymchwil o ansawdd uchel sy'n gwneud cyfraniad pwysig yn rhanbarthol ac yn fyd-eang. Mae’r tabl hwn yn atgyfnerthu ein henw da cynyddol drwy’r byd."
Meddai'r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor dros Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor:
“Mae gennym draddodiad sy’n ymestyn dros 130 o flynyddoedd o ddarparu addysgu a gofal rhagorol i fyfyrwyr, ac rydym yn ymfalchïo mewn ansawdd ein haddysgu ac ymchwil ym Mhrifysgol Bangor”
Mae safle byd eang yn gynyddol bwysig i brifysgolion. Mae recriwtio myfyrwyr yn digwydd mewn marchnad ryngwladol. Mae oddeutu 3.7 miliwm o fyfyrwyr yn astudio tu allan i’w gwlad - nifer fydd yn cynyddu i 7 miliwn erbyn 2020 yn ôl rhagamcaniadau, felly mae cael enw da yn rhyngwladol yn bwysig i brifysgolion. Cynhelir ymchwil yn gynyddol mewn prifysgolion gan dimoedd rhyngwladol sy’n cydweithio ar draws prifysgolion, mae proffil uchel yn hanfodol er mwyn gwneud cysylltiadau academaidd ac ymchwil gwerthfawr.
Gellwch weld y rhestr gyflawn o’r Times Higher Education World University Rankings yn www.timeshighereducation.co.uk/world-university-rankings/
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2014