Bangor yn cael effaith
Mae tabl cynghrair sydd newydd ei gyhoeddi yn mesur yr effaith go iawn ar gymdeithas gan Brifysgolion y tu allan i'w hymchwil a'u haddysgu.
Mae'r gynghrair newydd, a luniwyd gan gylchgrawn Times Higher Education, yn mesur sut mae prifysgolion yn gweithio tuag at 11 o Dargedau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, sy'n cynnwys polisïau rhyddid academaidd, ymdrechion tuag at gydraddoldeb rhyw a gweithredu yn erbyn newid hinsawdd.
Mae canlyniadau Cynghrair Effaith Prifysgol yn datgelu rhestr newydd sbon o sefydliadau, ac yn gosod Prifysgol Bangor ymhlith y 200 o sefydliadau sy'n perfformio orau yn y byd. Mae 23 o brifysgolion eraill y DU yn ymuno â Phrifysgol Bangor ymhlith y 200 uchaf, gyda Bangor yn yr unig Brifysgol o Gymru i’w chynnwys.
Nid yw hyn yn syndod i'r sefydliad a gafodd ei nodi eto yn ddiweddar yr wythfed Brifysgol fwyaf gwyrdd ledled y byd yn yr UI Green Metric (http://greenmetric.ui.ac.id/overall-ranking-2018/) ond mae hefyd yn tanlinellu’r gwaith pellach sydd angen i ni ei wneud i sicrhau ein bod yn gallu dangos yn hollol glir sut mae’n gweithgareddau’n cyfrannu at dargedau’r Cenhedloedd Unedig a hefyd nodau llesiant Cymru.
Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd yr Athro Jo Rycroft Malone, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor:
“Rydym yn gwybod fod prifysgolion yn cael effaith y tu hwnt i'w hamgylchedd uniongyrchol a gweithgareddau addysgu myfyrwyr. Rydym wedi gosod her uchelgeisiol i'n hunain i ddod yn brifysgol gynaliadwy i Gymru a'r rhanbarth ac i fod yn esiampl o brifysgol gynaliadwy.
Mae hyn yn golygu ystyried cynaliadwyedd, yn ei holl agweddau, ym mhopeth a wnawn. Rydym yn falch o'r canlyniadau hyn a byddwn yn parhau i ymdrechu i wella ymhellach. ”
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2019