Bangor yn croesawu arbenigwyr cyfreithiol o ar draws y byd ar gyfer Ysgol Haf blynyddol
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi croesawu gweithwyr a myfyrwyr cyfreithiol o ar draws y byd ar gyfer ei Ysgol Haf blynyddol.
Mae Ysgol Haf Saesneg Gyfreithiol glodfawr Bangor yn cynnig cyfle unigryw i gyfreithwyr sy’n ymarfer dros fôr i elwa o arbenigedd yr Ysgol ac i wella eu Saesneg cyfreithiol. Gan ystyried natur ryngwladol Cyfraith, mae amgyffrediad cryf o Saesneg y gyfraith a’i therminoleg dechnegol yn hanfodol er mwyn gallu cystadlu’n llwyddiannus yn y farchnad gwaith rhyngwladol ac i wneud cynnydd gyrfa yn y proffesiwn cyfreithiol.
Eleni, bu cynrychiolwyr o’r Eidal, Tsieina, Japan, Sweden, Latvia a Slovakia yn mynychu’r rhaglen dwy-wythnos, sydd yn cyfuno hyfforddiant Saesneg Cyfreithiol gyda chalendr cymdeithasol prysur. Roedd yr amserlen yn cynnwys gwibdeithiau i draeth Niwbwrch, Eryri, Castell Conwy, Ynys Seiriol a Phlas Newydd, ac yn cloi gyda chinio a seremoni gwobrwyo gyda gwestai arbennig, sef Julie Burton, Pennaeth Burton Law a Llywydd Cymdeithas y Gyfraith Gwynedd.
“Mae rhaglen haf Ysgol y Gyfraith yn cyflwyno cyfle gwych i gyfreithwyr o wahanol wledydd i wella eu Saesneg Cyfreithiol mewn prifysgol Brydeinig hanesyddol sydd wedi ei lleoli mewn un o ardaloedd mwyaf hardd Prydain”, meddai’r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Bangor. “Mae cyfranogwyr yn cael rhai darlithoedd gan staff yr Ysgol ac mae hyn yn annog trafodaethau cynhyrfiol ar sut mae gwahanol systemau cyfreithiol yn delio gyda phroblemau cyfreithiol cyffredin. Mae’r rhaglen gymdeithasol yn ddeniadol iawn ac mae’r cynrychiolwyr yn wir mwynhau cwmni ei gilydd yma ar ein campws hyfryd ger y môr.”
Sylwadau gan cynrychiolwyr:
'The mix of nationalities on the course is fantastic. I've not only made friends all over the world, but also learnt about their legal systems'
'The social programme was very interesting and a very good opportunity to learn British culture and make new friends'
'A valuable experience to talk with students and lawyers from different countries'
'The mix of nationalities makes the classes international and interesting'
'I would especially recommend this course to practising lawyers'
Am wybodaeth bellach ar yr Ysgol Haf Saesneg Cyfreithiol, cliciwch yma.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Awst 2012