Bangor yn croesawu Llywydd Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru a Lloegr
Cafodd Ysgol y Gyfraith Bangor gyfle unigryw i arddangos ei harbenigedd ymchwil a darpariaeth cyflogadwyedd i Lywydd Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru a Lloegr.
Bu John Wotton yn ymweld â Bangor yn ddiweddar fel rhan o’i amserlen yn ymweld ag aelodau o Gymdeithas y Gyfraith sy’n ymarferwyr yng Nghaer a Gogledd Cymru. Yn ystod ei ymweliad cafodd ei gyflwyno i Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael (ICPS) yr ysgol a nifer o’i mentrau dan arweiniad myfyrwyr.
Mae’r Llywydd ei hun yn ymarferwr o fri ym maes Cyfraith Gwrthymddiried yr UE a Chyfraith Caffael gyda'r cwmni cyfreithwyr rhyngwladol Allen & Overy. Treuliodd amser yn trafod gwaith a chanfyddiadau yr ICPS, dan arweiniad yr Athro Dermot Cahill, sy’n arbenigo mewn ymchwil i gyfraith caffael cyhoeddus. Gan fod ganddo gefndir gyrfaol mewn cyfraith gwrthymddiried a chaffael cyhoeddus, roedd gwaith y tîm project Ennill wrth Dendro o ddiddordeb arbennig iddo.
Bu Mr Wotton hefyd yn cyfarfod ag arweinyddion nifer o brojectau myfyrwyr yr Ysgol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ymrwymiad yr Ysgol i wella sgiliau cyfreithiol a rhagolygon cyflogadwyedd y myfyrwyr. Roedd y projectau hyn yn cynnwys:
- Yr 'Innocence Project', sy’n galluogi myfyrwyr i weithio ar ffeiliau aflwyddiant cyfiawnder honedig;
- Cyfraith Stryd, menter dan arweiniad myfyrwyr sy’n anelu at wella dealltwriaeth gyfreithiol yn y gymuned leol;
- Cymdeithas y Gyfraith Myfyrwyr Bangor, sy’n trefnu teithiau a llawer o weithgareddau all-gwricwlaidd a chwricwlaidd i fyfyrwyr y gyfraith;
- Tîm y Ffug Lys, sy’n gyfrifol am y calendr Ffug, lle mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn achosion cyfreithiol ffug ar lefel yr ysgol a lefel cenedlaethol.
I orffen yr ymweliad pwysig hwn, bu Mr Wotton yn traddodi darlith i fyfyrwyr israddedig Ysgol y Gyfraith o’r enw ‘The Young Lawyer of the Near Future – strategies for embarking on a successful legal career’. Roedd y ddarlith yn canolbwyntio ar ddatblygu gyrfa ac yn cynghori myfyrwyr ynglŷn â sut i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial i gael gwaith ar ôl graddio.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2012