Bangor yn cynnal yr ail gystadleuaeth flynyddol ar ysgrifennu ffuglen ddigidol 'boblogaidd'
Bydd y gystadleuaeth gyntaf yn y DU i ddarganfod yr enghreifftiau gorau o ffuglen ddigidol boblogaidd newydd yn cael ei chynnal am yr eildro trwy bartneriaeth â Phrifysgol Bangor a'r cyhoeddwr lleol Wonderbox.
Mae'r Gystadleuaeth Ymestyn Ysgrifennu Ffuglen Ddigidol, a gynhelir gan Brifysgol Bangor a Wonderbox Publishing, yn cael ei hariannu gan Wobr Cyflymu Effaith yr ESRC ym Mangor. Gwahoddir ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r byd mewn dwy iaith - Cymraeg neu Saesneg i wonderboxpublishing.com
Mae ffuglen ddigidol yn wahanol i e-lyfrau, mae ffuglen ddigidol "wedi'i geni'n ddigidol" - hynny yw, byddai'n colli rhywbeth ar ei ffurf a'i hystyr petai'n cael ei symud o'r cyfrwng digidol.
Gyda ffuglen ddigidol, mae'n rhaid i'r darllenydd ryngweithio gyda'r naratif trwy gydol y profiad darllen. Gall hyn gynnwys hypergysylltiadau, delweddau sy'n symud, gemau bach neu effeithiau sain. Mewn sawl ffuglen ddigidol, mae gan y darllenydd swyddogaeth o ran adeiladu'r naratif trwy reoli taith cymeriad trwy'r stori.
Gall enghreifftiau o wahanol fathau o ffuglen ddigidol gynnwys hypergysylltiadau, gemau antur-testun, storïau amlgyfrwng, fideo rhyngweithiol, gemau llenyddol a rhai rhaglenni symudol.
Bydd pum gwobr i enillwyr y gystadleuaeth - Gwobr y Beirniaid, Dewis y bobl, Gwobr Iaith Gymraeg, Gwobr Myfyriwr a Gwobr Stori Plant. Gellir cystadlu yn Gymraeg ym mhob un o gategorïau'r gwobrau
Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol a chyfle i gyhoeddi gyda Wonderbox Publishing.
Yn y gystadleuaeth y llynedd, a gynhaliwyd gan broject Darllen Ffuglen Ddigidol dan nawdd AHRC, Prifysgol Sheffield Hallam a Phrifysgol Bangor rhoddwyd gwobrau i'r awdur digidol profiadol Alan Bigelow am ei gomedi lladrata ar ddyfais symudol "How to Rob a Bank”, ap “Frritt-Flacc” gan StoryMax, “Switcheroo” gan The Marino Family, a stori gofod ryngweithiol "Astra Inclinant" gan Kaitlyn Ensley.
Meddai Lyle Skains, trefnydd y gystadleuaeth a chyhoeddwr Wonderbox:
"Mae ffuglen ddigidol mor gyfoethog a diddorol, i'r awdur a'r gynulleidfa. Crëwyd y gystadleuaeth hon i gyflwyno awduron a darllenwyr newydd i'r ffurf, ac i fod yn sbardun i ddod â ffuglen ddigidol i'r brif ffrwd o ran cydnabyddiaeth a gwobrwyo. Roeddem wedi ein rhyfeddu gan amrywiaeth arloesol a dawn naratif y cynigion i'r gystadleuaeth y llynedd; fedra i ddim disgwyl gweld beth fydd y cynigion eleni.
"Rydym yn gobeithio cael rhagor o geisiadau Cymraeg eleni. I annog hynny, byddwn yn cynnig gweithdai am ddim ar greu ffuglen ddigidol yn Gymraeg a Saesneg, fydd ar gael i'r cyhoedd ac ysgolion yr ardal."
Ewch at http://openingup.wonderboxpublishing.com/ am ragor o wybodaeth am y gweithdai a'r gystadleuaeth, neu i gyflwyno cais. Mae’r trefnwyr yn cynnig Gweithdai i’r cyhoedd ar ysgrifennu digidol, ac yn awyddus i gyflwyno gweithdai ysgrifennu digidol ar gyfer ysgolion. Am ragor o wybodaeth neu os hoffech fynychu neu fwcio gweithdy yn y Gwanwyn 2018, yna cysylltwch ŵ Lyle Skains drwy e bost at l.skains@bangor.ac.uk <mailto:l.skains@bangor.ac.uk> os gwelwch yn dda.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2017