Bangor yn cyrraedd yr 20 uchaf yn nhabl cynghrair Prifysgolion Gwyrdd y byd
Mae ymrwymiad Prifysgol Bangor i gynaliadwyedd wedi ennill safle 19 i'r brifysgol mewn tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Bu 301 o brifysgolion mewn 61 gwlad yn cystadlu yn y tabl cynghrair a lansiwyd gan Universitas Indonesia yn 2010 i dynnu sylw at gynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol mewn prifysgolion ledled y byd.
Meddai'r Is-Ganghellor, yr Athro John G Hughes, "Rwy’n hynod falch bod ymrwymiad amlwg Bangor i gymryd camau cadarnhaol i hyrwyddo cynaliadwyedd a sicrhau gwelliant amgylcheddol parhaus yn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol."
Daw'r cyhoeddiad hwn yn fuan ar ôl enwi Bangor fel y brifysgol 'werddaf' yng Nghymru yn 2013 yn ôl Cynghrair Werdd y Bobl a'r Blaned.
Meddai Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol yn yr adran Ystadau a Chyfleusterau, "Rydym yn gwneud cynnydd gwych, ac mae'r newyddion diweddaraf hyn yn galonogol iawn wrth i ni geisio sicrhau cydnabyddiaeth ryngwladol o dan Safon ISO14001 o'r System Reoli Amgylcheddol yn ddiweddarach eleni."
Gan ychwanegu at enw da cynyddol y brifysgol ym maes amgylcheddol byd-eang, cyflwynwyd polisi cynaliadwyedd newydd arloesol gan Fangor yn ddiweddar ac mae'n cymryd rhan weithredol mewn ystod eang o brojectau ymchwil a datblygu gyda'r sector diwydiant yn canolbwyntio ar dair colofn cynaliadwyedd sef Pobl, y Blaned a Ffyniant.
Ymatebodd Dr Einir Young, Pennaeth Datblygiad Cynaliadwy, Prifysgol Bangor i'r cyhoeddiad am fod yn yr 20 uchaf trwy ddweud, "Mae ein hymdrechion yn arwain gwelliannau amgylcheddol ac effeithlonrwydd o ran adnoddau ym mhob rhan o'r sefydliad yn dechrau dwyn ffrwyth. Ond rydym yn gwybod mai dim ond un agwedd yw hon ar yr agenda datblygu cynaliadwy. Yn unol â'r polisi cynaliadwyedd newydd rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar integreiddio arfer gynaliadwy i bopeth a wnawn, trwy ein hymchwil, ein dysgu a'n cadwyn cyflenwi ein hunain".
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2014