Bangor yn dathlu cae chwarae pob tywydd i fyfyrwyr a'r gymuned leol
Mae Prifysgol Bangor a Chlwb Pêl-droed Dinas Bangor yn dathlu lansio project cae chwarae pob tywydd a fydd yn dod â myfyrwyr a'r gymuned leol ynghyd flwyddyn nesaf.
Mae'r cae artiffisial trydedd genhedlaeth yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd ar faes Nantporth clwb Dinas Bangor a bydd yn gartref i dimau myfyrwyr Prifysgol Bangor a nifer o glybiau cymunedol o fis Medi ymlaen.
Mae'r cae chwarae 3G â llifoleuadau yn cael ei gyllido ar y cyd gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru, Prifysgol Bangor, Chwaraeon Cymru a Chyngor Dinas Bangor, a bydd yn sicrhau bod nifer o glybiau ieuenctid ac oedolion yn gallu parhau i ymarfer trwy fisoedd y gaeaf, beth bynnag fo'r tywydd.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ar 16 Ebrill a bydd yn cymryd oddeutu 14 wythnos i'w gwblhau, gan olygu y bydd wedi’i gwblhau mewn pryd i dymor pêl-droed 2014-15.
Dywedodd Cyfarwyddwr Chwaraeon Prifysgol Bangor, Richard Bennett, wrth drafod y project:
"Roedd y cyfle i weithio gyda Dinas Bangor a Chymdeithas Bêl-droed Cymru ar y gwaith o adeiladu cae ceden hir pob tywydd yn gyfle rhagorol nid yn unig i weithio gyda'n partneriaid yn y gymuned ond hefyd i sicrhau ein bod yn cynnig y cyfleusterau gorau trwy gydol y flwyddyn i'n myfyrwyr. Gyda'r cyfleuster hwn gallwn ddechrau cynnig mwy o gyfleoedd hamdden i fyfyrwyr gan gynnwys cynghreiriau 5-bob-ochr."
Dywedodd Dilwyn Jones, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor
"Rydym yn ddiolchgar iawn am gyfraniad sylweddol y Brifysgol at y project hwn, ni fuasai wedi bod yn bosib sicrhau cyllido gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru hebddo. Gyda'r holl bartïon yn gweithio gyda'i gilydd gallwn yn awr ehangu ein cynlluniau pêl-droed ieuenctid a phêl-droed merched yn ogystal â darparu cyfleusterau ymarfer ar gyfer amryw o glybiau lleol".
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2014