Bangor yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
Ar 24 Chwefror bydd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn dod â digwyddiad blynyddol y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn ôl i Fangor, gyda gorymdaith liwgar y ddraig a Gala Tsieineaidd i ddathlu 2018, Blwyddyn y Ci.
Bydd disgyblion o Ysgol Ein Harglwyddes yn ymuno â pherfformwyr o Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor a Phrifysgol South Bank Llundain i gynnal arddangosfa liwgar o ddiwylliant Tsieina trwy gydol y prynhawn. Bydd draig Tsieineaidd yn ymlwybro ar hyd Stryd Fawr Bangor, yng nghwmni dawnswyr a drymwyr, gyda pherfformiad ysblennydd o ganeuon a dawns Tsieineaidd i ddilyn yn Eglwys Gadeiriol Bangor.
Dywedodd Deon Eglwys Gadeiriol Bangor, y Tra Pharchedig Kathy Jones:
"Rydym yn hynod falch o fedru cynnal y digwyddiad gwych hwn i'r gymuned yn Eglwys Gadeiriol Bangor eleni. Mae'n ffordd ragorol o ddod â phobl at ei gilydd ym misoedd oer y gaeaf i ddysgu mwy am y byd a thraddodiadau diwylliannau eraill."
Bydd gorymdaith y ddraig yn gadael Eglwys Gadeiriol Bangor am 12pm ac yn gwneud ei ffordd ar hyd y Stryd Fawr at y Cloc ac yn ôl drachefn, a chynhelir y gala yn y Gadeirlan rhwng 12.30pm a 2pm, ac mae'r cyfan yn rhad ac am ddim. Y gwesteion arbennig fydd Maer Dinas Bangor, y Cynghorydd Derek Hainge, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John Hughes, a'r actores leol Angharad Rhodes, sy'n fwyaf adnabyddus am ei rhan yn y gyfres deledu Melody ar CBeebies.
Bydd digwyddiad Sefydliad Confucius yn dilyn Gŵyl Cymru-Tsieina Pontio (16-18 Chwefror) y penwythnos cynt, a fydd yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd gyda phenwythnos o berfformiadau eclectig, ffilmiau, cerddoriaeth fyw a gweithgareddau i deuluoedd.
Mae rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau Sefydliad Confucius i'w gweld ar: www.bangor.ac.uk/confucius-institute.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2018