Bangor yn ennill grant o bwys gan yr Academi Addysg Uwch
Mae tri academydd o Brifysgol Bangor wedi ennill grant sylweddol gan yr Academi Addysg Uwch (AAU) a fydd yn cefnogi datblygiad dysgu ac addysgu ar draws addysg uwch y DU.
Bydd Dr Nicola Callow, Dr James Hardy a Dr Calum Arthur o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor yn arwain rhaglen a fydd yn ymchwilio i "Effaith goruchwyliaeth drawsnewidiol ar ennill myfyrwyr, eu cadw a sicrhau eu llwyddiant."
Bydd yr arian yn galluogi'r tîm ymchwil i rannu a datblygu ymhellach eu harbenigedd mewn arweinyddiaeth drawsnewidiol, ynghyd ag archwilio sut mae arweinyddiaeth drawsnewidiol yn ymwneud â ffactorau pwysig fel cymhelliant myfyrwyr a’u llwyddiant. Bydd yr ymchwil, a'r goblygiadau a ddaw i’r amlwg o’r canfyddiadau, yn galluogi prifysgolion i ddarparu goruchwyliaeth a chymorth o safon uwch fyth ar gyfer eu myfyrwyr.
Dywedodd yr Athro Colin Baker, Dirprwy Is-Ganghellor (Addysgu a Dysgu): "Rydym eisoes wedi rhoi pwyslais mawr ar ansawdd ein haddysgu a chymorth i fyfyrwyr ym Mangor, ac mae'n wych gallu addasu gwybodaeth o faes seicoleg chwaraeon, maes yr ydym yn rhagori ynddo, er budd nid yn unig i’n myfyrwyr ein hunain ond i fyfyrwyr ar draws y sector addysg uwch."
Meddai’r Athro Craig Mahoney, Prif Weithredwr yr Academi Addysg Uwch: "Rwy'n falch iawn o gyhoeddi’r grantiau hyn. Bydd yr enillwyr yn gweithio'n agos gyda'r Academi Addysg Uwch yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf i'n helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i brofiad dysgu miloedd o bosib o fyfyrwyr.
"Mae amgylchiadau addysg uwch yng ngwledydd Prydain yn parhau i newid yn gyflym ac mae'n hanfodol ein bod yn gallu rhannu dysgu, nid yn unig o wledydd Prydain ond o bob cwr o'r byd, os ydym am barhau i ddiwallu anghenion amrywiol ein myfyrwyr a'r rhai sy'n eu dysgu. Rwy'n hyderus y bydd canlyniadau’r ymchwil o'n rhaglen Ddoethuriaeth newydd, boed yn benodol i un ddisgyblaeth neu’n ymchwil gyffredinol am ddysgu, yn cael effaith sylweddol ar bolisi ac ymarfer. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'n henillwyr grantiau wrth iddynt ddatblygu a gwneud eu projectau."
Mae grantiau’r Rhaglen Ddoethuriaeth yn rhan o strategaeth yr Academi Addysg Uwch i gyflawni ymchwil i ddatblygu gwybodaeth addysgol ac arfer ar sail tystiolaeth mewn addysg uwch. Rhoddwyd y 15 grant i academyddion i gynnal efrydiaethau Doethuriaeth mewn meysydd yn cynnwys effaith strategaethau cynnal myfyrwyr hŷn rhan-amser mewn AU, ac astudio deinameg cydweithio mewn grwpiau dysgu wedi’i seilio ar broblem.
Bydd canlyniadau ymchwil yr efrydiaethau Doethuriaeth yn cael eu rhannu i addysg uwch yn gyffredinol ym Mhrydain.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2012