Bangor yn fuddugol yn yr Eisteddfod Rhyng-Golegol
Bu myfyrwyr Cymraeg o brifysgolion Cymru’n mwynhau penwythnos o gystadlu a chymdeithasu yn yr Eisteddfod Rhyng-Golegol a gynhaliwyd ym Mangor dros y penwythnos ( 17-19 Chwefror).
Roedd y penwythnos yn llwyddiant ysgubol gyda’r Cyngerdd nos Sadwrn yn gwerthu allan a myfyrwyr Bangor yn fuddugol yn yr Ŵyl.
Llwyddodd myfyrwyr Bangor i ennill yr Eisteddfod gan ennill 843 o farciau rhwng y cystadlaethau Gwaith Cartref a Llwyfan, gyda Phrifysgol Aberystwyth yn dod yn ail efo 482 o farciau.
Meddai Mair Rowlands, Llywydd UMCB: “Wedi'r holl waith caled yn paratoi at yr Eisteddfod mi roedd yn llwyddiant ysgubol, gyda Bangor yn dod i’r brig, a'r gig Cymraeg yn gwerthu allan. Roedd yr awyrgylch yn Neuadd PJ yn wefreiddiol ac mi wnaeth pawb fwynhau yn fawr. Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth helpu a chefnogi!”
“Roedd nifer o uchafbwyntiau i'r Eisteddfod, ond y rhai sy'n sefyll allan yn bennaf ydi Lois Eifion yn cael cyntaf ac ail yng ngwobr Tlws y Cerddor, mae hi'n ferch dalentog iawn ac mae diolch mawr iddi am arwain y corau a cystadlu yn ddiflino yn y cystadlaethau llwyfan. Uchafbwynt arall oedd Huw Ynyr yn ennill y rhuban glas lleisiol, roedd ei berfformiad yn wych, ac fe gododd y beirniaid a'r gynulleidfa ar eu traed i'w gymeradwyo, mae ganddo lais arbennig! Wrth gwrs mi roedd ennill yr Eisteddfod yn uchafbwynt hefyd, a braf oedd gweld myfyrwyr Bangor yn eu crysau cochion yn dathlu!”
Meddai Wyn Thomas, Dirprwy Is- Ganghellor y Brifysgol, “Roedd hi'n fraint aruthrol cael bod yn bresennol yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn Neuadd Prichard Jones ddydd Sadwrn diwethaf a chael tystiolaeth ddiamheuol o ddawn a gallu arbennig myfyrwyr Prifysgol Bangor. Lloriwyd y sefydliadau eraill yn llwyr a braint myfyrwyr Cymraeg y sefydliad hwn oedd cael cipio'r darian - a hynny'n gwbl haeddiannol. Ein gobaith ni fydd gweld dylanwad yr unigolion ifanc hyn fu mor frwd ac eiddgar i gystadlu (dan faner Y Coleg ar y Bryn) yn yr ymrysonau llenyddol a cherddorol, yn cyfrannu at gyfoethogi cymunedau ledled Cymru yn y dyfodol.”
Caiff yr Eisteddfod Ryng-golegol ei hystyried fel un o brif ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol ar galendr unrhyw fyfyriwr Cymraeg neu ddysgwr sy’n astudio yng Nghymru a hefyd i rai o’r cymdeithasau Cymraeg sydd wedi’u ffurfio tu allan i Gymru.
Yn ogystal â’r cystadlu ar y llwyfan a’r Gwaith Cartref, cynhaliwyd Gala Chwaraeon rhyng-golegol, oedd yn cynnwys Rygbi, Pêl droed a chystadleuaeth Pêl rwyd 7 bob ochr. Roedd y Gig mawreddog ar nos Sadwrn, gyda nifer o fandiau Cymraeg - Helyntion Jo’s y Ficar, Sŵnami, Creision Hud, Al Lewis Band, Y Bandana a Chowbois Rhos Botwnnog yn llwyddiant, gyda’r tocynnau’n gwerthu allan.
“Rhaid diolch i bawb sydd wedi bod ynglŷn â’r trefniadau ac i’r holl sefydliadau sydd wedi cytuno i noddi’r Eisteddfod mewn unrhyw ffordd; i Pontio am fod yn brif noddwr i’r Eisteddfod yn ogystal ag Undeb Myfyrwyr Bangor, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am noddi’r Gadair a'r Goron. Rhaid diolch yn ogystal i’r Glôb, Patrick’s Bar, C2, y Brifysgol a Teejak. Ac i’r unigolion a gynigiodd eu cefnogaeth, ac a enwyd yn rhestr destunau’r dydd,” Meddai Mair Rowlands.
Mae’r Eisteddfod dros y blynyddoedd wedi sicrhau llwyfan i hybu doniau a thalentau nifer helaeth o fyfyrwyr ac mae’n siŵr y bydd y traddodiad hwn yn parhau yn y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Chwefror 2012