Bangor yn paratoi at gyfres olaf Game of Thrones
Mae dilynwyr selog Game of Thrones yn aros yn eiddgar i wylio'r 8fed gyfres ym mis Ebrill, ond mae academyddion Prifysgol Bangor yn edrych ar y nofelau a'u dylanwad ar y gyfres deledu.
Bangor yw yn un o'r ychydig brifysgolion yn y byd sy'n gwau Game of Thrones yn rhan o'r addysgu. Mae'r Athro Raluca Radulescu, sy'n addysgu Ffantasi a Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Bangor, yn edrych ar wreiddiau canoloesol y nofelau yn y modiwl Llenyddiaeth Saesneg 'Realms of Magic'. Dywedodd,
"Y prif atyniad i mi yw fod y stori'n tarddu o Ryfeloedd y Rhosynnau yn y 15ed ganrif. Mae'n portreadu'r wleidyddiaeth, y cynllwynio, y cymeriadau cryf (yn ddynion a merched) a'r gwisgoedd a'r ddrama.
"Mae'n ddiddorol bod modd tynnu hyn o straeon hŷn a'i werthu i gynulleidfa fodern mewn ffordd wahanol."
Mae Kate Stuart, o'r Alban, yn astudio PhD mewn Awduraeth Llyfrau a Diwylliant Llyfrau yn yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor. Dechreuodd ei diddordeb yn Game of Thrones tra oedd yn astudio ar gyfer ei MRes, wrth iddi ymchwilio i addasu testunau ffantasi.
Wrth gymharu'r nofelau a'r cyfresi teledu, dywedodd Kate,
"Fel addasiad teledu, rwy'n credu bod Game of Thrones yn hygyrch iawn i bobl na fyddent o bosibl yn darllen cyfres go swmpus o nofelau. Drwy'r gyfres deledu, gall llawer o bobl gael blas ar y stori.
"Mae'r bobl sy'n darllen y llyfrau - y rhai hynny sy'n eu darllen yn awchus ac yn sylwi ar y gwahaniaethau rhwng y llyfrau a'r addasiad teledu - yn dechrau gweld patrymau ac yn sylwi ar beth sy'n cael ei dynnu allan o'r gyfres deledu a beth sy'n cael mwy o sylw, gan adael i chi ddamcaniaethu tybed beth all ddigwydd yn y diwedd."
Mae Kate wrth ei bodd yn astudio pwnc y mae'n angerddol yn ei gylch.
"Ym Mhrifysgol Bangor dw i wedi gallu ymroi iddi'n syth a gwylio a darllen llawer iawn o bethau a meddwl sut mae'r newidiadau yma'n digwydd yn y maes ffantasi.
"Dwi hefyd wedi bod yn dysgu am ddamcaniaethau, am y ffordd y gallai darllenwyr fod yn dylanwadu arnynt neu sut y gallai technoleg fod yn newid pethau, felly dwi wir yn cael mynd at wreiddiau pethau ym Mangor."
Mae'r Athro Raluca Radulescu yn dweud bod ei myfyrwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol ynglŷn â dysgu am gyfres amserol hon o nofelau a chyfresi teledu fel rhan o'u hastudiaethau ym Mangor. Ychwanegodd,
"Mae myfyrwyr yn hoffi gweld beth yw gwreiddiau cynyrchiadau modern. Mae'r rhoi llawer mwy o bleser ac yn cyfoethogi profiad rhywun i weld sut mae motiffau a thechnegau llenyddol ac ambell i safbwynt beirniadol wedi cael eu dadansoddi a'u haddasu dros amser. Rydym yn edrych ar sut maent yn cyrraedd y cyfnod modern a sut y gallant ddylanwadu ar ein bywydau mewn ffyrdd anuniongyrchol."
Bydd wythfed gyfres Game of Thrones, sef y gyfres olaf erioed, yn cynnwys chwe phennod, a bydd i'w gweld o 15 Ebrill 2019 ar Sky Atlantic a NOW TV.
Gallwch ddarllen erthygl Raluca Radulescu am Game of Thrones yn The Conversation yma.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2019