Bangor yn y 10 uchaf yng nghynghrair gwyrdd byd-eang
Mae ymrwymiad Prifysgol Bangor i gynaliadwyedd wedi cael ei gadarnhau unwaith eto mewn tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Cafodd UI Green Metric, tabl cynghrair o brifysgolion gwyrddaf y byd, ei lansio gyntaf gan Universitas Indonesia yn 2010 i dynnu sylw at gynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol mewn prifysgolion ledled y byd. Ers hynny mae nifer y prifysgolion sy'n cymryd rhan wedi cynyddu; eleni gwnaeth 619 o brifysgolion o 76 o wledydd gymryd rhan, o'i gymharu â 516 o brifysgolion y llynedd. Yn y tabl cynghrair cyfredol, mae Prifysgol Bangor wedi codi wyth safle i'r wythfed safle, sy'n ein gosod ni ymhlith y 2% uchaf o brifysgolion sy'n cymryd rhan.
Meddai'r Is-ganghellor, yr Athro John G. Hughes:
"Rwy'n falch iawn bod Bangor yn parhau i gadw ei safle fel arweinydd cynaliadwyedd yn y sector addysg uwch yn rhyngwladol. Mae'r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn dangos ein hymrwymiad cyson i weithredu'n gadarnhaol i hyrwyddo cynaliadwyedd a gwella’r amgylchedd yn barhaus."
O flwyddyn i flwyddyn mae Prifysgol Bangor ac Undeb Bangor (Undeb y Myfyrwyr) yn cydweithio'n agos i wella eu safle fel arweinwyr cynaliadwyedd yn barhaus. Ers 2014 mae'r brifysgol wedi codi 20 safle yng Nghynghrair y Green Metric, gan esgyn o'r 10% uchaf i'r 2% uchaf o brifysgolion gwyrddaf y byd, tra bod nifer y prifysgolion sy'n cymryd rhan bron â dyblu yn ystod y cyfnod hwnnw. Bu'n flwyddyn lwyddiannus iawn: dyfarnwyd "Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf" i Brifysgol Bangor yng Nghynghrair Prifysgolion y Bobl a'r Blaned am ei pherfformiad cynaliadwyedd cyffredinol; daeth yn un o'r sefydliadau cyntaf i ennill y safon rheolaeth amgylcheddol newydd ISO 14001: 2015 a hi oedd y sefydliad cyntaf yn y DU i gyrraedd y lefel uchaf o'r fersiwn newydd a llymach o Safon Rheolaeth Amgylcheddol y Ddraig Werdd. Ym mis Gorffennaf ychwanegodd Undeb y Bangor Wobr Rhagoriaeth Effaith Werdd yr NUS at ei chasgliad, ar ôl ennill y Wobr Aur dair gwaith yn 2011 a 2013 a 2016.
Ond nid yw'r Brifysgol yn llaesu dwylo. Yn y flwyddyn academaidd 2017/18, mae'r Brifysgol wedi mabwysiadu dull rheolaeth amgylcheddol trwy waith tîm. Mae'r Tîm Perfformiad Amgylcheddol Campws newydd (sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob cwr o'r brifysgol) yn cydweithio'n agos ag Undeb Bangor (Undeb y Myfyrwyr), tîm Campws Byw a'r gymuned ehangach i ddod a chynaliadwyedd yn fyw.
Mewn ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd:
"Ymdrech tîm ar draws y campws yw hon. Mae gwella'r amgylchedd ac arbed adnoddau ledled y sefydliad yn her ddi-baid ac mae gofyn i ni i gyd ymuno yn y gwaith. Rydym yn cydnabod bod rheolaeth amgylcheddol gadarn yn hanfodol bwysig i'n nod o ddatblygu a defnyddio dulliau blaengar o wneud ystyriaethau cynaliadwyedd a llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn rhan annatod o bopeth a wnawn, trwy ein hymchwil, ein haddysgu a'n cadwyn gyflenwi ein hunain".
”.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2017