Bangor yn y 4% uchaf o Brifysgolion Gwyrddaf y Byd
Mae ymrwymiad Prifysgol Bangor i gynaliadwyedd wedi ennill safle uchel i'r brifysgol unwaith eto mewn tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Yng nghynghrair diweddaraf UI Green Metric mae Prifysgol Bangor wedi symud ddeuddeg safle yn uwch i safle 16, sy’n ein gosod yn y 4% uchaf o’r prifysgolion sy’n cymryd rhan.
Lansiwyd UI Green Metric, tabl cynghrair o brifysgolion gwyrddaf y byd, gan Universitas Indonesia yn 2010 i dynnu sylw at gynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol mewn prifysgolion ledled y byd. Bob blwyddyn mae nifer y prifysgolion sy'n cymryd rhan yn cynyddu; blwyddyn yma fe wnaeth 516 o brifysgolion o 74 o wledydd gymryd rhan, cynnydd o 407 o brifysgolion y llynedd.
Meddai'r Is-ganghellor, yr Athro John G. Hughes:
"Rwy'n falch iawn bod Bangor yn parhau i gael effaith fel arweinydd cynaliadwyedd yn y sector addysg uwch yn rhyngwladol. Mae'r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i weithredu'n gadarnhaol i hyrwyddo cynaliadwyedd a gwella’r amgylchedd yn barhaus."
Meddai Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol yn yr adran Ystadau a Chyfleusterau:
"Rydym yn parhau i wneud cynnydd sylweddol, nid yn unig yn y DU, ond yn fyd-eang, fel y dangosir gan y newyddion diweddaraf yma. Mae ein hymrwymiadau amgylcheddol yn cael eu nodi'n glir yn ein System Rheoli Amgylcheddol sy'n cael ei ardystio at y ISO14001 a gydnabyddir yn rhyngwladol, a Safonau Amgylcheddol y Ddraig Werdd Cymru ".
Ymatebodd Dr Einir Young, Pennaeth Datblygiad Cynaliadwy, Prifysgol Bangor i'r cyhoeddiad trwy ddweud:
"Mae gyrru gwelliannau amgylcheddol ac effeithlonrwydd adnoddau ar draws y sefydliad yn her heb ddiwedd. Rydym yn cydnabod bod rheolaeth amgylcheddol gadarn yn hanfodol i'n nod o ddatblygu a chymhwyso ffyrdd arloesol o integreiddio ystyriaeth ar gyfer cynaliadwyedd a lles cenedlaethau'r dyfodol i bopeth a wnawn, trwy ein gwaith ymchwil, ein haddysgu a'n cadwyn gyflenwi ein hunain ".
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2017