Bangor yn ymuno â threial Microsoft byd-eang
Mae dull addysgu’r brifysgol, sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr ac yn eu hannog i ddangos menter, wedi arwain at ddyfarnu safon Aur i’r brifysgol am addysgu. Caiff y dull hwnnw ei adlewyrchu mewn project newydd.
Mae’r Ysgol Addysg yn cydweithio gyda Microsoft i alluogi athrawon dan hyfforddiant i ddod yn ddinasyddion digidol yr unfed ganrif ar hugain. Bangor yw’r unig brifysgol yng Nghymru, ac un o ddim ond tair prifysgol yn y Deyrnas Unedig, i beilota defnyddio deunyddiau Microsoft Education yn un o’n cyrsiau.
Caiff y project ei arwain gan Owen Davies, sy’n Ddarlithydd Mathemateg a Chymhwysedd Digidol Cynradd yn yr Ysgol Addysg. Esboniodd y bydd y peilot yn cael ei ddefnyddio gyda myfyrwyr sy’n dilyn y Rhaglen Athrawon Graddedig. Esboniodd Owen fod y myfyrwyr hyn yn treulio’u holl amser yn gweithio mewn ysgolion a bod modd iddynt gael mynediad at eu holl ddeunyddiau dysgu ar-lein, gan ennill cymwysterau gan Brifysgol Bangor a Microsoft.
Meddai Owen: "nid yn unig bydd y myfyrwyr yn dysgu am offer ar-lein, ac yn dysgu sut i’w defnyddio nhw wrth addysgu, ond mi fyddan nhw yn defnyddio’r offer yma i gydweithio efo staff yn yr Ysgol Addysg. Mi fydd y myfyrwyr yn dysgu sut i deimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel yn y tirlun digidol ac yna mi fyddan nhw’n ysbrydoli ac yn addysgu disgyblion ysgol Cymru i fod yn fedrus yn eu sgiliau digidol, yn ogystal â chreu gwersi deniadol. Mae cymaint o’r economi fodern yn ddibynnol ar gydweithio, a dyna’n union mae’r offer yma’n ei wneud, sef caniatáu i’n myfyrwyr gymryd rhan mewn cymuned fyd-eang o addysgwyr.”
Cynhaliodd Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth y brifysgol hyfforddiant i staff yr Ysgol Addysg ar yr offer Microsoft a daeth yr Is-ganghellor, Yr Athro John G Hughes, yno i groesawu Natalie Burgess o gwmni Microsoft i’r brifysgol ac i roi ei gefnogaeth i’r fenter gyffrous hon.
I gael rhagor o fanylion am y project, cysylltwch ag Owen Davies (o.t.davies@bangor.ac.uk). I gael rhagor o wybodaeth am y dechnoleg, cysylltwch â Dr Alan Thomas , Tîm Technoleg Addysgu, Gwasanaethau TG (alan.thomas@bangor.ac.uk)
Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2017