Bangor yn yr 20 uchaf ym Mhrydain am safon Profiad Myfyrwyr yno
Mae staff uwch Prifysgol Bangor wedi croesawu canlyniadau Arolwg Profiad Myfyrwyr y Times Higher Education, sy’n gosod y Brifysgol ymysg 20 prifysgol orau gwledydd Prydain o ran boddhad myfyrwyr.
“Mae’r profiad gwych y mae myfyrwyr yn ei gael, ynghyd â’r gofal y maent yn ei dderbyn ym Mangor, wedi bod yn atyniadau allweddol i’r Brifysgol ers cenedlaethau, ac mae’n glir bod ein myfyrwyr presennol yn gwerthfawrogi’r profiad o astudio yma yn ei gyfanrwydd,” meddai’r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol.
Mae’r arolwg yn dangos bod myfyrwyr Bangor yn uchel eu canmoliaeth o staff y Brifysgol am eu diddordeb a’u cymorth, am ansawdd uchel y cyrsiau, a’r ymdeimlad o gymuned wych sydd i’r Brifysgol. Un elfen sydd wedi sgorio’n uchel yw safon uchel y gweithgareddau a chlybiau allgyrsiol. Gyda dros 100 o glybiau chwaraeon a chymdeithasau pynciol a diddordebau hamdden, Prifysgol Bangor yw’r unig Brifysgol gyhoeddus ym Mhrydain sydd yn sicrhau bod yr holl glybiau a chymdeithasau ar gael am ddim i’w myfyrwyr.
Dyma ddywedodd yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-Ganghellor dros Fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor:
“Mae arolygon annibynnol i gyd yn tynnu sylw at enw da a llwyddiant gwych Bangor yn hyn o beth. Gosodwyd clybiau a chymdeithasau’r Brifysgol yn 6ed ym Mhrydain gan wefan ‘WhatUni’ yr wythnos hon. Gosodwyd ansawdd ein llety myfyrwyr hefyd yn y 6ed safle ym Mhrydain, a’n cyrsiau a’n darlithwyr o fewn y deg uchaf.”
Dywedodd yr Athro Hughes: “I ddarpar fyfyrwyr, mae arolygon a thablau cynghrair fel hyn yn ffynhonnell ychwanegol o wybodaeth i’w hystyried ynghyd â phrosbectysau a gwefannau prifysgol. Gallant yn aml ychwanegu at wybodaeth am enw da a chymeriad prifysgol.”
“Yn ogystal â rhoi ystyriaeth ofalus i ba gwrs i’w ddewis, lleoliad prifysgol, costau byw a’r gefnogaeth sydd ar gael, rydym hefyd yn annog darpar fyfyrwyr i ymweld â’r prifysgolion hynny y maent yn eu hystyried, i gael gwir flas ar y lle yn ogystal.”
Ar hyn o bryd mae Bangor yn buddsoddi miliynau mewn nifer o ddatblygiadau newydd, gan gynnwys Canolfan Pontio newydd gwerth £48m, a fydd yn cynnwys darlithfeydd newydd, mannau dysgu cymdeithasol, theatr, sinema, adran arloesi a chartref newydd i Undeb y Myfyrwyr.
Yn ogystal, mae’r Brifysgol yn datblygu llety newydd gwerth £30m i fyfyrwyr, ac yn ailddatblygu adnoddau chwaraeon y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys uwchraddio’r ddarpariaeth bresennol yng Nghanolfan Brailsford yn sylweddol a phartneru efo Clwb Pêl-droed Dinas Bangor, Cymdeithas Pêl-droed Cymru a Chwaraeon Cymru i greu cae chwarae pob tywydd a fydd yn barod erbyn yr haf.
Mae gan y Brifysgol gynlluniau pellach i fuddsoddi yn ei chyfleusterau gwyddonol yn dilyn cyhoeddiad fis diwethaf ei bod am dderbyn benthyciad tymor hir o £45m o’r European Investment Bank.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2014