Barcutiaid Tsieineaidd dros Dreborth
Ddydd Sul, 4 Mai, cynhelir ail Ŵyl Barcutiaid Tsieineaidd Bangor yng Ngardd Fotaneg Treborth. Bydd yn brynhawn lliwgar o hwyl i'r teulu yng ngerddi hyfryd Treborth a threfnir yr achlysur gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Mae'r Ŵyl Farcutiaid eleni'n ddilyniant i'r digwyddiad hynod lwyddiannus a drefnwyd gan Sefydliad Confucius fis Medi diwethaf, pan gymerodd cannoedd o bobl o Ogledd Cymru ran mewn gweithdai paentio barcutiaid Tsieineaidd ac yna rhoi cynnig ar eu hedfan mewn gwahanol fannau ar draws y rhanbarth.
Meddai llefarydd o Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor:
"Mae paentio a hedfan barcutiaid Tsieineaidd yn ffordd ddifyr a rhwydd o gyflwyno diwylliant Tsieineaidd i bobl. Roedd yr Ŵyl Farcutiaid y llynedd yn llwyddiant ysgubol ac roeddem yn hynod falch bod cymaint o bobl ar draws yr ardal wedi cymryd rhan ynddi. Mae'r gweithdai yma'n ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd a dysgu rhywbeth newydd."
Mae'n briodol iawn bod yr Ŵyl Farcutiaid yn cael ei chynnal yn Nhreborth eleni gan fod cynlluniau ar y gweill yno i ddatblygu gardd Tsieineaidd newydd gyda chysylltiadau â Gardd Fotaneg Xishuangbanna yn Nhalaith Yunnan yn Tsiena.
"Rydym yn hynod falch o'r cyfle i gynnal yr Ŵyl Farcutiaid Tsieineaidd yn Nhreborth eleni," meddai Sophie Williams, darlithydd yn yr Ysgol Amgylchedd Andoddau Naturiol a Daearyddiaeth ac yn yr Ardd Fotaneg.
"Mae dod â phobl at ei gilydd i ddysgu a mwynhau'r Ardd yn rhan ganolog o'n gwaith ac mae cynnal yr Ŵyl Farcutiaid yma'n gyfle delfrydol i hyrwyddo hynny. Mae dathlu diwylliant Tsieineaidd a chreu cysylltiadau gyda'n cymuned Tsieineaidd yn rhan bwysig o'n Project Gardd y Ddwy Ddraig ac rydym yn hynod falch o'r cyfle i weithio gyda Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor i wireddu hyn."
Cynhelir yr Ŵyl Barcutiaid Tsieineaidd yng Ngardd Fotaneg Treborth ddydd Sul 4 Mai o 1-4pm ac mae mynediad am ddim. Gwahoddir ymwelwyr i baentio a hedfan eu barcutiaid Tsieineaidd eu hunain ac, i'r rhai a ddaw yn gynnar, bydd bwffe bys a bawd Tsieineaidd ar gael o 1pm. Bydd arddangosfa'n dangos cynlluniau'r ardd Tsieineaidd newydd yn Nhreborth a bydd Cyfeillion Treborth hefyd o gwmpas i roi teithiau tywys o amgylch y safle.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2014