Bardd o Fangor ar restr fer prif wobr
Mae bardd byd-enwog, y mae ei gwaith eisoes wedi ei gyfieithu i 18 o ieithoedd, ar y rhestr fer i brif wobr barddoniaeth. Rhoddwyd ar restr fer y Gymdeithas Farddoniaeth ar gyfer Gwobr Ted Hughes am Farddoniaeth Newydd.
Mae Zoë Skoulding ar y rhestr fer gyda'i phedwerydd casgliad o gerddi a gyhoeddodd yn ddiweddar: The Museum of Disappearing Sounds (Seren, 2013). Meddai Sean Borodale, un o feirniad y wobr:
"Maent yn gerddi am synau sy'n diflannu, am egni byrhoedlog a pharhaus sŵn ei hun, a chyfoeth yr amgylchedd sonig; cerddi lle mae geiriau a synau a lleisiau ac olion llefaredd yn cael eu hail-ddarganfod; ystafelloedd lle mae 'patrwm yn ymagor' yn casglu egni o hanner bywyd synau i ail-greu cân; mae'n gasgliad o gerddi ac yn amgueddfa o gasgliadau."
Yn ogystal â bod yn fardd ac yn uwch ddarlithydd yn yr Ysgol Saesneg, mae Zoë Skoulding hefyd yn gyfieithydd, yn olygydd a beirniad sydd â diddordeb mewn barddoniaeth gyfoes gan ferched a mannau trefol. Mae cyfuno'r diddordebau hyn wedi arwain at brojectau ar y cyd â beirdd a chyfieithwyr yn Ewrop, yr India ac America, yn ogystal â dod â rhai o'r beirdd hyn i Gymru i Ŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru. Mae wedi perfformio ei gwaith o flaen cynulleidfaoedd o filoedd o bobl mewn gwyliau rhyngwladol ledled y byd, a bydd yn aml yn cynnwys sŵn electronig yn ei darlleniadau yn ogystal â chydweithio gyda cherddorion.
Ar hyn o bryd mae Zoë Skoulding yn fardd anrhydeddus yng Nghanolfan Ryngwladol Récollets ym Mharis. Cynigir y cyfnod preswyl, a gynhelir gan Ddinas Paris a'r Institut Français, i awduron ac artistiaid cydnabyddedig sydd eisoes yn enwog yn rhyngwladol.
Meddai Zoë Skoulding:
"Rwy'n falch iawn o fod ar y rhestr fer arbennig hon, gan ei fod ar gyfer barddoniaeth sy'n herio ffiniau traddodiadol y ffurf gelfyddydol hon. Efallai oherwydd fy mod yn ysgrifennu'n Saesneg mewn Cymru ddwyieithog, rwyf bob amser yn ymwybodol o’r posibiliadau sy'n ffynnu ar ymylon a ffiniau o bob math."
Cyhoeddir yr enillydd ar 28 Mawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2014