Be human, be Fluxus!
Roedd Yoko Ono, partner John Lennon, yn arlunydd ac yn aelod blaenllaw o Fluxus, mudiad celf yn y 1960au a'r 1970au.
Roedd Fluxus yn defnyddio gweithredoedd bob dydd, arwyddion a synau o'u hamgylchedd i greu perfformiadau Avant Garde. Llwyddodd Fluxus i chwyldroi byd y celfyddydau. Gwnaethant ymadael â phopeth a welwyd yn flaenorol ym myd celf a gwleidyddiaeth y dosbarth canol ers yr Ail Ryfel Byd.
Bydd Sarah Pogoda, Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Almaeneg ym Mhrifysgol Bangor yn siarad am ei hymchwil seiliedig ar y celfyddydau i Fluxus yng ngŵyl Being Human 2020, sef digwyddiad a gynhelir ledled y DU sy'n canolbwyntio ar y dyniaethau.
Meddai Sarah, “Mae Fluxus o ddiddordeb arbennig yn ystod cyfnod clo Covid-19, gan fod Fluxus yn annog pawb i ddefnyddio'r byd sydd o'n cwmpas i wneud celf.” Dychmygwch berfformio 'opera' Fluxus trwy daro'n rhythmig ar badell ffrio am 45 munud; neu ddringo ysgol er mwyn gwneud i ddŵr ddiferu i'ch paned o wahanol uchderau ...
Os hoffech ddysgu mwy am Fluxus neu am broject ymchwil Sarah, gallwch ymuno â “Caffi Fluxus” ar-lein ar 16 Tachwedd, 5:00pm - 6:00pm. Am fwy o wybodaeth, ewch i:
https://beinghumanfestival.org/event/fluxus-cafe/
“Mae Fluxus yn cyfoethogi eich bywyd bob dydd, mae'n gymaint o hwyl”, meddai un o'r artistiaid sy'n gysylltiedig ag ymchwil Sarah. Yn y Caffi Fluxus, cewch gyfle i siarad ag artistiaid eraill sy'n gysylltiedig â'r ymchwil.
“Mae’n bwysig cofio bod celf yn digwydd mewn mannau eraill ar wahân i amgueddfeydd, theatrau, orielau, llyfrau neu sinemâu”, ychwanegodd Sarah. “Mae Fluxus yn dangos i ni ei fod yn fwy o ffordd o edrych ar y byd. Dyma pam, os edrychwch o gwmpas, fe welwch Fluxus yn datblygu unrhyw bryd ac unrhyw le yng Nghymru. Mae Cymru yn lle Fluxus.”
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2020