Beth mae casglu o'r glannau yn ei olygu i gasglwyr a helwyr yn yr oes sydd ohono.
Mae Liz Morris-Webb, ymchwilydd yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion ym Mhrifysgol Bangor, yn chwilio am bobl sy'n casglu o lannau môr Cymru i gymryd rhan yn ei hymchwil. Os ydych chi'n chwilota am fwyd, abwyd, arian, addysg, meddyginiaethau, ymchwil neu rywbeth mwy anarferol, gallwch gymryd rhan.
Mae gan wneuthurwyr polisi a chadwraethwyr ddiddordeb cynyddol mewn 'cyfraniad natur i bobl'. Mae Liz yn ymchwilio i ddimensiynau dynol yr amgylchedd morol ac yn credu y dylid eu hystyried ynghyd â gwerthoedd economaidd wrth ystyried Lles Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru. Mae chwilota am fwyd gwyllt yn cael sylw rheolaidd yn y wasg ond nid yw'n weithgaredd newydd, roedd casglu'n hanfodol i esblygiad dynol. Mae Liz yn credu na ddylid anghofio'r gwerthoedd personol, teuluol a diwylliannol modern sy'n gysylltiedig â'r gweithgaredd hynafol o gasglu a bod hwn yn amser da i adrodd eich straeon. Mae'n cynnig cyfle i holl gasglwyr Cymru gofnodi eu meddyliau a'u teimladau ynghylch sut mae casglu'n effeithio arnynt drwy gymryd rhan yn ddienw yn yr arolwg ar-lein 15 munud (https://bangor.onlinesurveys.ac.uk/what-does-gathering-from-the-seashore-mean).
Wrth siarad am yr ymchwil, mae Liz sy'n fyfyriwr PhD KESS, yn cofio'r rhesymau pam y dechreuodd ei PHD a pham y mae hi'n credu y dylai casglwyr gymryd rhan yn y project.
Meddai: "Rwyf wedi gweithio gyda chasglwyr abwyd, pobl sy'n hel cocos, casglwyr gwymon, pysgotwyr masnachol a physgotwyr hamdden ar nifer o brojectau blaenorol gyda'r cwmni partner Marine Ecological Solutions Ltd ar gyfer fy PhD. (Marine EcoSol). Mae gan bawb stori i'w ddweud pam eu bod wrth eu bodd yn gwneud yr hyn maen nhw'n ei wneud, a pham maen nhw'n credu ei fod yn bwysig iddyn nhw. Nid oes rhai yn gweld gwerth yn eu gweithgareddau hyd nes bod bygythiad newid fel newid stociau, datblygiad arfaethedig neu reolaeth bosibl. Ac yn fwy na hynny, does neb wedi gofyn iddynt."
Mae Liz wedi treulio'r haf yn ymweld â thraethau Cymru yn siarad â phobl sy'n casglu o'r glannau: "Yn aml, nid yw'r bobl yr wyf yn siarad â hwy yn sylweddoli pwysigrwydd eu gweithgareddau nes eu bod wedi ei ddadansoddi gyda fy holiadur. Mae'r rhan fwyaf yn gadael gyda gwên ar eu hwyneb a gwell dealltwriaeth o'u hunain." Yng ngeiriau casglwr cocos o Dde Cymru "Nid yw gweithio ar y tywod yn waith, mae'n ffordd o fyw." Mae casglu yn ein cysylltu â'n hanes, ein teulu, ein hamgylchedd a hyd yn oed â'n teimladau mewnol.
"Byddai'n drueni pe bai'r rhywogaethau neu'r gweithgareddau hyn sy'n hanesyddol bwysig yn cael eu colli. Felly, rwyf yn ceisio deall ystyr y gweithgaredd traddodiadol hwn i'r rhai sy'n casglu ar lan y môr yn yr oes sydd ohoni" meddai Liz. Os ydych chi'n casglu o'r glannau, llenwch ei holiadur i ystyried pam rydych chi'n casglu yn ystod 'Oes yr Ymwybod', pan allwch gael y rhan fwyaf o bethau rydych chi eisiau trwy archebu dros y we.
Ewch i'r holiadur yn https://bangor.onlinesurveys.ac.uk/what-does-gathering-from-the-seashore-mean neu cysylltwch â Liz i drefnu cyfweliad personol.
Caiff ysgoloriaethau ymchwil Liz Morris-Webb ei hariannu dan raglen Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS 2), sef cynllun datblygu sgiliau uwch i Gymru gyfan sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector addysg uwch yng Nghymru. Mae'n cael ei gyllido'n rhannol gan raglen gydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd ac yn rhannol gan y cwmni partner Marine Ecological Solutions Ltd. (Marine EcoSol). www.marine-ecosol.com Mae’r elfennau Meistr ymchwil a PhD wedi eu hintegreiddio gyda rhaglen hyfforddi sgiliau lefel uchel, sy’n arwain at Gymhwyster Datblygu Sgiliau Ôl-radd. Bydd KESS 11 yn rhedeg tan 2022 a bydd yn darparu 600+ PhD a chyfleoedd Ymchwil Meistr ledled Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2018