Beth ydi’r ffordd orau o helpu plant gyda chlefyd siwgr i edrych ar ôl eu hunain?
Mae astudiaeth newydd sy’n cael ei harwain ar y cyd gan Brifysgolion Bangor a Chaerdydd, gyda thîm o arbenigwyr o bob rhan o wledydd Prydain, yn ceisio gweld beth yw’r ffordd orau o gyflwyno gwybodaeth i helpu plant a phobl ifanc gyda chlefyd siwgr math 1 i edrych ar ôl eu hunain.
Bydd yr astudiaeth `Evidence into practice: evaluating a child-centred intervention for diabetes medicine management’, sy’n cael ei hadnabod yn gyffredinol erbyn hyn fel EPIC (Evidence into Practice: Information Counts), yn gofyn i blant a phobl ifanc gyda chlefyd siwgr math 1 beth sydd orau ganddynt o ran cael gwybodaeth a’r penderfyniadau y maent yn eu gwneud ynghylch sut i edrych ar ôl eu hunain. Arweinir y tîm gan yr Athrawon Jane Noyes ac Anne Williams.
Meddai Llinos Spencer, y Swyddog Ymchwil ar gyfer EPIC yng Nghanolfan Bangor ar gyfer Ymchwil Gysylltiedig ag Iechyd: ”Mae’r tîm eisiau siarad yn benodol efo plant a phobl ifanc efo clefyd siwgr math 1 sy’n byw oddi wrth eu teuluoedd am gyfnodau byr, canolig neu hir – er enghraifft, wrth fynd i wersylloedd haf a gwersylloedd chwaraeon, ysgolion preswyl, rhai sy’n byw gyda theuluoedd maeth, ar leoliadau neu gyrsiau gwaith/addysg, ar wyliau gyda ffrindiau, neu rai sy’n byw mewn canolfannau i droseddwyr ifanc.
“Byddem yn falch iawn o glywed gan rieni/gwarcheidwaid, a phlant/pobl ifanc rhwng 6 a 18 oed sydd wedi edrych ar ôl eu clefyd siwgr math 1 tra oeddent i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd am gyfnod.”
Meddai Dr Lesley Lowes, Uwch Ddarlithydd/Nyrs Arbenigol Clefyd Siwgr mewn Plant, sy’n gyd-ymchwilydd ar y project: “Mae plant sydd efo clefyd siwgr math 1 angen gwybodaeth arbenigol, ac mae’r ffordd y caiff y wybodaeth yma ei chyflwyno’n dibynnu llawer iawn ar oed y plentyn a lle maen nhw’n byw o ddydd i ddydd. Felly, mae angen datblygu adnoddau gwybodaeth addas i wahanol oedrannau sydd wedi cael eu datblygu efo help plant a phobl ifanc.”
Cyllidir y project gan raglen y National Institute of Health Research Service Delivery and Organisation (NIHR-SDO) a chaiff ei gynnal mewn nifer o wahanol fannau yng Nghymru a Lloegr.
Os hoffech gynorthwyo’r project EPIC, cysylltwch â Llinos Spencer ar 07973 116 474 neu L.Spencer@bangor.ac.uk Mae gwybodaeth bellach ar gael yn: www.epicproject.info.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2011