Beth yw ieithoedd dadleuol eu statws?
Rydym yn gyfarwydd â’r term ieithoedd lleiafrifol, yn wir mae’r Gymraeg yn iaith leiafrifol, ac yn cael ei chydnabod a’i chefnogi o’r herwydd, ac mae yna restrau o ieithoedd sydd mewn perygl, ond mae categori arall yn bodoli: sef ieithoedd dadleuol eu statws ( contested languages).
Ieithoedd yw’r rhain sydd yn ddigon wahanol yn ieithyddol i brif iaith y wlad lle maent yn cael eu siarad i gael eu dosbarthu fel iaith wahanol, ond nad ydynt wedi derbyn statws iaith swyddogol ac yn cael eu hystyried yn dafodieithoedd.
Mae’r rhan fwyaf o’r ieithoedd hyn hefyd mewn perygl o ddiflannu, ac o’r herwydd yn cael eu rhestru yn Atlas Ieithoedd mewn Perygl UNESCO, a gyhoeddwyd yn 2010.
Bydd cynhadledd ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos nesaf, (Medi 8-10), yn dod ag amrediad o arbenigwyr at ei gilydd i drafod tynged yr ieithoedd hyn.
Ag yntau’n siaradwr un o’r ieithoedd hyn, sef, Lombardeg, Dr Marco Tamburelli o Ysgol Ieithyddiaeth yw un o drefnwyr y Gynhadledd ac mae’n esbonio:
“Ym Mhrydain, roedd Scots yn iaith ddadleuol eu statws nes i Lywodraeth yr Alban ei chydnabod. Mae fy mamiaith, Lombardeg yn cael ei chydnabod gan UNESCO fel iaith mewn perygl, gan ei bod yn ieithyddol wahanol i’r Eidaleg ond nid yw’n cael ei chydnabod fel iaith swyddogol nac yn yr Eidal nac yn y Swistir , lle mae’n famiaith i rai.
“Mae pobl yn rhagdybio bod pawb yn gytûn ar fater ieithoedd lleiafrifol – rydym yn gwybod ble maen nhw ac yn y blaen, ond mae yna ieithoedd eraill a all fod yn disgyn trwy’r rhwyd, ac mewn perygl o fynd i ddifancoll. Gall hyn fod am amryw o resymau hanesyddol, gwleidyddol neu economaidd.
Mewn rhai achosion mae miliynau o bobl yn siarad yr iaith ond nid oes addysg, gwasanaethau ac yn y blaen ar eu cyfer yn yr iaith honno. Er enghraifft nid oes mwy o wahaniaeth ieithyddol rhwng Galiseg a Sbaeneg nag rhwng Astwreg a Sbaeneg ac eto ni chydnabyddir Astwreg yn iaith leiafrifol yn Sbaen, er iddi gael ei siarad gan fwy na chan mil o bobl.
Mae’r gynhadledd yn cynnull ieithyddion, gwyddonwyr gwleidyddol ac arbenigwyr cyfreithiol i drafod y materion hyn a'r ffordd ymlaen. Rhaid adnabod yr ieithoedd hyn cyn gallu mynd ati i'w cydnabod a chydnabod eu hawliau.
Bydd y Gynhadledd yn clywed prif anerchiad gan Dr. Christopher Moseley, awdur Atlas Ieithoedd y Byd sydd mewn Perygl UNECSO.
Meddai Dr Tamburelli: “Un o’m bwriadau wrth drefnu’r gynhadledd hon yng Nghymru oedd tynnu sylw at lwyddiant diweddar y Gymraeg, dathlu’r Gymraeg ac annog siaradwyr ieithoedd dadleuol eu statws i ymdrechu i gael yr un llwyddiant ag a welsom yng Nghymru."
Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2013