Beyond Borders
Mewn cydweithrediad â Gogledd Creadigol, mae’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor yn cynnal digwyddiad rhwydweithio yn Pontio ar Ionawr 19eg o'r enw Tu Hwnt i’r Ffiniau.
Gobeithiwn mai hwn fydd y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau i hybu cydweithio agosach rhwng y diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt a'n hymchwilwyr o fewn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, er mwyn datblygu cysylltiadau a phosibiliadau o gydweithio ar brosiectau a ffrydiau cyllido.
Mae'r digwyddiad cyntaf, Tu Hwnt i’r Ffiniau, yn edrych ar yr heriau / cyfleoedd sy'n wynebu'r diwydiannau creadigol yng Nghymru mewn cyd-destun rhyngwladol.
Prif nod y digwyddiad hwn yw archwilio cysylltiadau rhwng cynrychiolwyr y diwydiant a'n staff academaidd, ac adnabod cyfleoedd am gefnogaeth ariannol i fentrau sydd yn pontio’r byd academaidd a’r diwydiannau creadigol.
Byddwn yn ystyried cyfleoedd o fewn Cymru a thu hwnt, cydweithio rhwng disgyblaethau creadigol, ac effaith technolegau newydd ar yr ystod o arferion o fewn y sector creadigol a’r cyfryngau.
Er mwyn rhoi syniad o'r hyn fydd yn digwydd ar y diwrnod, byddwn yn cynnal sgyrsiau gyda Guto Harri (BBC/News International/Liberty Global) a Chris Payne (Quantum Soup).
Byddwn hefyd yn clywed gan gydweithwyr yn ein hadran. Rydym yn gweithio ar feysydd sydd yn cynnwys dyfodol cyhoeddi, arloesi mewn gemau, Deallusrwydd Artiffisial (AI) Emosiynol, preifatrwydd a diogelu data, mynd i'r afael â newyddion ffug, ffurfiau newydd o wneud rhaglenni dogfen, a strategaethau busnes newydd yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Mae’r dolenni cofrestru isod.
https://www.facebook.com/events/135733997111903/?ti=cl
https://www.eventbrite.co.uk/e/tu-hwnt-ir-ffiniau-beyond-borders-tickets-41219029226?aff=es
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2018