Blas ar Iaith
Roedd y digwyddiad yn seiliedig ar brofiad bwyty, roedd pob gweithdy naill ai'n gwrs cyntaf, yn brif gwrs neu'n bwdin ac roedd y gwirfoddolwyr ar y diwrnod wedi'u gwisgo fel cogyddion neu weinyddion ac yn arwain 'cwsmeriaid' at y byrddau penodol. Roedd bwydlen y dydd yn cynnwys sesiynau blasu mewn Ffrangeg, Almaeneg, Mandarin a Sbaeneg, dosbarthiadau a oedd yn archwilio diwylliannau tramor fel y sesiwn caligraffi Tsieineaidd a gynhaliwyd gan aelodau o Sefydliad Confucius a hyd yn oed seminarau a oedd yn archwilio effaith ehangach dysgu ieithoedd modern, er enghraifft, sesiwn 'Byd o gyfleoedd' a gynhelir gan Y Cyngor Prydeinig, Cymru.
Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn broject sy'n canolbwyntio ar ddisgyblion gyda'r amcan o gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n dysgu ieithoedd tramor modern drwy nifer o fentrau a digwyddiadau a gyrhaeddodd dros 1,000 o ddisgyblion ledled Cymru y llynedd (2017-18) gan ostwng nifer cyfartalog y disgyblion nad oeddent eisiau dysgu iaith newydd o 52% i 19%.
Cynorthwywyd y digwyddiad gan gefnogaeth nifer o sefydliadau iaith a busnesau lleol yn cynnwys; Goethe Institut, Cyngor Prydeinig Cymru, Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen, Signature Leather, Institut Français, Mentora ITM, Sefydliad Confucius Bangor, Dyfodol Byd-eang GwE ac Europe Direct Wrecsam.
Dywedodd Karen Morrisroe o Europe Direct Wrecsam: “Roedd yn wych gweld cymaint o bobl ifanc yn gyffrous am ddysgu ieithoedd a gweld y manteision mawr y mae'n eu cynnig nid yn unig iddyn nhw'n bersonol ac i'w gyrfaoedd ond hefyd er budd yr economi ehangach.”
Roedd Sylvie Gartau, Cydlynydd Dyfodol Byd-eang GwE yn edmygu'r “cyfleoedd gwych i ddisgyblion cynradd gael 'blasu' gwahanol ieithoedd” a dywedodd “Roedd yn dda gweld y disgyblion yn cymryd rhan ac yn mwynhau eu hunain”.
Dywedodd Rubén Chapela-Orri, o'r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth a Cydlynydd Llwybrau Cymru yn y gogledd:
“Mae'n allweddol bod disgyblion yng Nghymru yn sylweddoli potensial dysgu am ieithoedd a diwylliannau yn ifanc, yn enwedig nawr gyda chwricwlwm newydd Cymru yn cael ei weithredu. Soniodd yr ysgolion am yr hwyl a gafodd eu disgyblion, ac roedd rhai ohonynt yn atgoffa eu hunain yn ôl yn yr ysgol o'r eirfa a'r ymadroddion yr oeddent wedi eu dysgu. Mae'n ysbrydoliaeth i bob un ohonom weld pa mor awyddus ydynt i fod yn ddinasyddion byd-eang! ”
Mae'r Cyngor Prydeinig Cymru yn ddiolchgar am y cyfle i ddweud wrth ddisgyblion ifanc yng Nghymru bod ieithoedd a rhyngwladoliaeth yn hanfodol ar gyfer adeiladu pontydd ac ymddiriedaeth ymhlith cenhedloedd y byd. Roedd Blas ar Iaith yn bleser go iawn i bawb a gymerodd ran. Rydym eisoes yn edrych ymlaen at gymryd rhan y flwyddyn nesaf!
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2019