‘Blynyddoedd Rhyfeddol’ i agor Cyfres Darlithoedd Iechyd a Lles
‘Blynyddoedd Rhyfeddol’ rhaglen sydd yn cefnogi plant ifanc a theuluoedd, ac sydd wedi ennill gwobrau, ac ymchwil i’w heffeithiolrwydd yw’r pwnc ar gyfer darlith gyhoeddus. Cynhelir ‘Children & Families/Incredible Years’ am 6.00 ddydd Mawrth, 5 Hydref, yn Venue Cymru, Llandudno.
Hon yw’r cyntaf mewn cyfres o Ddarlithoedd Iechyd a Lles a gynigir gan Brifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Choleg Llandrillo Cymru. Bydd y noson yn dechrau gyda’r ddarlith, wedi’i seilio ar ymchwil. Wedyn ceir lluniaeth a chyfle i gymysgu ag eraill. Bydd y noson yn gorffen gyda sesiwn ryngweithiol a arweinir gan Goleg Llandrillo Cymru. Ni chodir tâl mynediad i’r darlithoedd ac maent yn agored i bawb: bydd y gyfres yn apelio at gynulleidfa eang, o weithwyr yn y sector iechyd i gleifion, myfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd.
Mae’r rhaglenni Blynyddoedd Rhyfeddol i rieni, athrawon a phlant yn rhaglenni effeithiol a chyfeillgar dros ben sy'n ein cynorthwyo i gefnogi ein plant. Maent wedi cael eu croesawu yng Nghymru yn sgil casgliadau cadarnhaol iawn yn deillio o ymchwil drylwyr a wnaed gan dîm ymchwil dan arweiniad yr Athro Judy Hutchings a Dr. Tracey Bywater ym Mhrifysgol Bangor. Cynigir hyfforddiant am ddim, wedi ei ariannu gan y Cynulliad, i hyfforddi staff ar hyd a lled Cymru a chynigir rhaglenni am ddim i rieni mewn amrywiaeth o leoliadau.
Meddai Dr Keith Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae’r gyfres yma o ddarlithoedd yn hynod berthnasol i bobl sy’n gweithio ym maes gofal iechyd, rhai sy’n rhoi addysg i weithwyr gofal iechyd, a’r cyhoedd yn gyffredinol. Dylai’r testunau fod o ddiddordeb i’r boblogaeth yn gyffredinol, gan roi gwybodaeth iddynt am rai o’r prif faterion yn ymwneud ag iechyd a lles.”
Meddai Dr Lindsay Jones o Brifysgol Bangor “bydd y datblygiad cyffrous yma’n cyflwyno rhagoriaeth Bangor mewn ymchwil yn y maes er budd i bawb ac mae’n enghraifft wych o’r berthynas waith gadarn rhwng Prifysgol Bangor a Choleg Llandrillo Cymru”.
Bydd y gyfres ddarlithoedd, a gefnogir gan Ganolfan Sgiliau Aber-Bangor a’r National Leadership & Innovation Agency for Healthcare (NLIAH), yn cyflwyno’r ymchwil ddiweddaraf ar bynciau iechyd a lles mewn ffordd gyfeillgar a hawdd ei deall. Bydd cyfle hefyd i ddarganfod mwy am gyrsiau’n ymwneud ag iechyd a lles sy’n cael eu cynnig ym Mhrifysgol Bangor a Choleg Llandrillo Cymru.
Er na chodir tâl mynediad, mae’n hanfodol cofrestru i archebu eich lle.
Cysylltwch â Chanolfan Sgiliau Aber-Bangor ar 01248 365918 neu absc@bangor.ac.uk
Am wybodaeth bellach ar y gyfres ddarlithoedd a Chanolfan Sgiliau Aber-Bangor ewch i’n gwefan:http://absc.bangor.ac.uk
Diwedd
Dyddiad cyhoeddi: 1 Hydref 2010